Mae'r Academi Iechyd a Lles yn ganolfan ragoriaeth â’r nod o hyrwyddo profiad cadarnhaol o enedigaeth i fenywod a chymdeithas. Mae'r Academi yn hyrwyddo amrywiaeth o fentrau bydwreigiaeth, ac yn gwella profiad y myfyrwyr drwy eu cynnwys mewn agweddau sylfaenol ar rôl y fydwraig.

Mae ein menter Bydwreigiaeth yn hyrwyddo diwylliant o enedigaeth ffisiolegol ac ymagwedd gadarnhaol at fagu plant fel y safon arferol. Ein nod yw arwain y ffordd, drwy'r Academi a'r gymuned bydwreigiaeth ehangach, yn yr ymgyrch dros newid mewn gwasanaethau bydwreigiaeth, er mwyn sicrhau bod pob menyw'n cael mynediad i ofal priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Rhianta Cadarnhaol Cyn Geni

Babi

CADWCH LE NAWR

  • Gallwch gadw lle drwy e-bostio Emma Oliver
  • Addysg cyn geni mewn grŵp bach ym Mhrifysgol Abertawe, a arweinir gan fydwragedd dan hyfforddiant yn eu blwyddyn olaf
  • £120 am gwrs chwe wythnos i chi a'ch partner geniUn sesiwn yr wythnos, 6-8pm
  • Yn addas ar gyfer wythnos 24 o feichiogrwydd ac ymlaen
  • Mynediad at grŵp cymunedol ar Whatsapp i gefnogi eich gilydd
  • Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael - dim ond saith pâr fesul grŵp

 

Mae ein Dosbarthiadau Cyn Geni Geni, Babi a Chi yn ffocysu ar olwg mwy cyfannol ar baratoi ar gyfer genedigaeth a magu plant. Dan arweiniad myfyrwyr bydwreigiaeth gyda chefnogaeth bydwragedd cymwys, bydd ein rhaglen yn eich arwain a’ch cefnogi chi a’ch partneriaid geni trwy chwe wythnos o ddosbarthiadau cyn geni:

  • Wythnos Un: Eich Baban sy'n Datblygu
  • Wythnos Dau: Paratoi ar gyfer Genedigaeth
  • Wythnos Tri: Genedigaeth, Babi a Chi
  • Wythnos Pedwar: Gobeithion ac Ofnau
  • Wythnos Pump: Bwydo eich Babi
  • Wythnos Chwech: Gofalu am Fabi, Gofalu Amdanat Ti

Amserlen dosbarth:

  • Cwrs DYDD MAWRTH am chwe wythnos yn dechrau ar 10 Medi
  • Cwrs DYDD MERCHER am chwe wythnos yn dechrau ar 11 Medi
  • Cwrs DYDD MAWRTH am chwe wythnos yn dechrau ar 22 Hydref
  • Cwrs DYDD MERCHER am chwe wythnos yn dechrau ar 23 Hydref
  • Cwrs DYDD IAU am chwe wythnos yn dechrau ar 7 Tachwedd

Parcio am ddim ar y campws

Yr Academi Iechyd a Llesiant, Adeilad Glyndŵr, Prifysgol Abertawe

Ble ddylwn gael fy mhabi?