Noson Agored TAR arbennig ar gyfer y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

16 Hydref 6.00-7.30pm, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), 11 Heol San Helen, Abertawe, SA1 4AB

Mae Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i gynyddu nifer yr athrawon lleiafrifoedd ethnig fel bod gan ddysgwyr yng Nghymru weithlu addysg mwy amrywiol.

Ymunwch â ni yn ein Noson Agored TAR arbennig ar gyfer y gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael ei chynnal mewn partneriaeth ag Addysgwyr Cymru a'r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST).

Gyda’r hwyr, bydd sgyrsiau gan y siaradwyr canlynol:

Aminur Rahman - Swyddog Recriwtio a Chymorth, Hyrwyddo Gyrfaoedd, Addysgwyr Cymru

Dr Russell Grigg, FFCT - Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol i Athrawon

Khudeza Siddika - Mentor Cymunedol Cydraddoldeb Hil AGA

Bydd lluniaeth ar gael i bawb sy'n mynychu.

Cadwch Eich Lle Yma 

 

Noson Agored Rithwir TAR Cynradd ac Uwchradd - 14 Tachwedd 6.00-7.30pm (Zoom)

Ymunwch â ni yn ein Noson Agored Rithwir TAR Cynradd ac Uwchradd. Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm TAR, ein myfyrwyr a'r ysgolion sy'n bartneriaid â ni yn ein sesiwn holi ac ateb fyw ar Zoom i ganfod mwy am astudio gyda ni o fis Medi 2025! Cadwch Eich Lle Yma