Isod ceir dyddiadau semestrau a thymhorau’r holl gyrsiau ar gyfer y blynyddoedd 2024/2025 a 2025/2026.  Defnyddiwch y podiau isod i fynd i’ch cynllunydd sesiwn cywir yn seiliedig ar eich cyfnod dechrau/mynediad.

Os bydd eich cyfnod mynediad neu ddechrau cwrs y tu allan i'n cyfnodau derbyn ym mis Medi a mis Ionawr, cysylltwch â Thîm Cymorth y Gyfadran a fydd yn gallu rhoi'r wybodaeth berthnasol am ddyddiadau semestrau a thymhorau i chi.

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau gyda sefydliadau partner a masnachfreintiau. Os ydych chi'n astudio gydag un o'n sefydliadau partner neu fasnachfreintiau, byddant yn rhoi'r wybodaeth berthnasol am semestrau a thymhorau i chi.