Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle gwych i grwydro'n campysau hardd, gallwch gwrdd â staff academaidd a chael blas ar fywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein rhaglen Diwrnod Agored hyblyg a chyffrous yn rhoi digon o gyfle i chi weld ein cyfleusterau addysgu, dewisiadau llety, cyfleusterau chwaraeon a'r ystod o wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Mae hefyd modd i chi gael cymorth ac arweiniad ar gyllid myfyrwyr a chefnogaeth ariannol.

Ydych chi eisiau holi am fywyd myfyrwyr? Siaradwch gydag un o'n llysgenhadon myfyrwyr a fydd o gwmpas drwy gydol y dydd i ateb eich holl gwestiynau. Holwch ni hefyd am fywyd myfyriwr Cymraeg ar y campws ac am y gefnogaeth a'r clybiau a chymdeithasau Cymraeg sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau ar y campws

Mae ein Diwrnodau Agored Clirio wedi gorffen ar gyfer 2024, ond os hoffech chi siarad gydag aelod o’r tîm am drefnu ymweld ffoniwch 0808 175 3071, neu cysylltwch â ni drwy un o’r ffyrdd eraill i gysylltu â’r Tîm Clirio

Os ydych chi’n ystyried gwneud cais ar gyfer mynediad yn 2025, gallwch ymweld â ni yn ystod un o’n Diwrnodau Agored ym mis Hydref neu mis Tachwedd.

Dau fyfyriwr yn cerdded ar gampws y Bae