Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle gwych i grwydro'n campysau hardd, gallwch gwrdd â staff academaidd a chael blas ar fywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein rhaglen Diwrnod Agored hyblyg a chyffrous yn rhoi digon o gyfle i chi weld ein cyfleusterau addysgu, dewisiadau llety, cyfleusterau chwaraeon a'r ystod o wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Mae hefyd modd i chi gael cymorth ac arweiniad ar gyllid myfyrwyr a chefnogaeth ariannol.

Ydych chi eisiau holi am fywyd myfyrwyr? Siaradwch gydag un o'n llysgenhadon myfyrwyr a fydd o gwmpas drwy gydol y dydd i ateb eich holl gwestiynau. Holwch ni hefyd am fywyd myfyriwr Cymraeg ar y campws ac am y gefnogaeth a'r clybiau a chymdeithasau Cymraeg sydd ar gael i chi.

Darllenwch ein tudalen Cwestiynau Cyffredin Diwrnodau Agored i gael gwybod popeth am ein diwrnodau agored.

Edrychwch ar ddyddiadau ein diwrnodau agored nesaf isod, a chofiwch gofrestru i gadw'ch lle. Os nad ydych chi'n gallu mynychu'r dyddiadau hyn, cofrestrwch eich diddordeb yn ein diwrnodau agored a byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddyddiadau'r dyfodol.

Archebwch Ddiwrnod Agored 2024

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'r campws ar ein Diwrnod Agored lle gallwch gwrdd â'ch darlithwyr, archwilio Abertawe a sgwrsio gyda myfyrwyr presennol.

Dydd Sadwrn 19eg Hydref 2024 a dydd Sadwrn 9fed o Dachwedd 2024 yw ein diwrnodau agored nesaf.

Cynlluniwch eich Diwrnod

Cadwch le ar 19 Hydref 2024

Cadwch le ar 9 Tachwedd 2024
Llysgennad myfyrwyr yn dal arwydd 'Yma i Helpu'

Digwyddiadau eraill y gallech fod â diddordeb ynddynt

Yn ogystal â'n diwrnodau agored, mae yna hefyd nifer o ddigwyddiadau ar gyfer meysydd diddordeb penodol. Gobeithiwn eich gweld chi yno! 

Darllenwch y newyddion diweddaraf ar ein ffrwd cyfryngau cymdeithasol