Agor Arloesi sy'n sbarduno datblygiad ecosystem arloesi Cymru, gan rymuso twf busnesau drwy arweinyddiaeth, dysgu a chydweithio.

Mae Agor Arloesiyn 'switsfwrdd' ar gyfer popeth sydd gan y Brifysgol i'w gynnig, gan gyfeirio busnesau at yr arbenigedd y gallwn ei ddarparu, a phontio'r bwlch rhwng byd diwydiant a'r byd academaidd.

Agor Innovation Logo

Sut gall Agor Arloesi eich helpu chi a'ch busnes:

  • Cynnig gwybodaeth a chymorth Eiddo Deallusol
  • Astudiaethau dichonolrwydd cam cynnar ar gyfer arloesiadau newydd
  • Cyfleoedd am dwf busnes a phersonol drwy raglenni datblygu arweinyddiaeth pwrpasol, dysgu proffesiynol a'r rhaglen reoli Help i Dyfu
  • Cymorth i nodi ffynonellau cyllid grant a chyflwyno ceisiadau
  • Interniaethau a lleoliadau gwaith i fyfyrwyr
  • Rhwydwaith helaeth gan gynnwys busnesau bach a chanolig, sefydliadau addysg uwch, byrddau iechyd a chyrff proffesiynol
  • Nodi, canfod a datblygu partneriaethau arloesi a sgiliau ar draws y byd diwydiant ac academaidd
  • Mynediad at arbenigedd academaidd mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys Gwyddoniaeth, Peirianneg, Busnes a Gofal Iechyd etc

Cydweithredu â Ni

Nod Agor Innovation yw cefnogi rhanddeiliaid o bob sector - diwydiant, y byd academaidd a'r gymuned - i greu ecosystem arloesol sy'n ffynnu ar draws Cymru.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys yr Academi Frenhinol Peirianneg, M-SParc a GIG Cymru a busnesau a sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol i arwain yr agenda arloesedd.

Mae Agor Innovation yn barod i weithio gyda chi i nodi eich anghenion a’u diwallu.

Ebostiwch Agor Arloesi
Two people holding VR equipment