CYN Y FLWYDDYN AR LEOLIAD AC YN YSTOD Y CYFNOD HWNNW

Os ydych yn mynd ar leoliad Blwyddyn mewn Diwydiant fel rhan o'ch gradd yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, byddwch yn derbyn y canlynol:

  • Cymorth llawn er mwyn sicrhau lleoliadau gwaith diwydiannol drwy ddarparu cymorth cyflogadwyedd o safon gan y gwasanaethau proffesiynol a staff academaidd.
  • Cyfres o sesiynau paratoi er mwyn i chi ddysgu am y broses o gyflwyno cais am leoliad gwaith megis sut i ysgrifennu CV a dangos eich gallu yn ystod cyfweliadau ac ystyriaethau iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd gwaith.
  • Deunyddiau i ategu eich lleoliad gwaith, gan gynnwys sesiwn cyn y lleoliad gwaith a fydd yn eich galluogi i gael trosolwg o'r hyn y gallwch ei ddisgwyl yn ystod eich lleoliad Blwyddyn mewn Diwydiant.
  • Gwybodaeth am gyflogwyr lleoliadau gwaith addas drwy berthnasoedd hirsefydlog gyda llu o gyflogwyr.
  • Tiwtor lleoliad gwaith a fydd yn trefnu eich ffonio i drafod eich cynnydd.

Mae gennym dîm o fentoriaid hefyd. Byddant yn cynnig darlithoedd i fyfyrwyr Blwyddyn mewn Diwydiant cyn mynd ar leoliad gwaith i'ch paratoi ar gyfer eich gwaith, byddant yn adolygu ac yn cymeradwyo eich CV a'ch ffurflenni cais, ac yn cynnig cymorth drwy gydol y broses cyflwyno cais.

Yn ystod y flwyddyn ar leoliad gwaith, bydd eich mentor yn trefnu eich ffonio i sicrhau eich bod wedi cyflawni'r broses sefydlu ac wedi ymgartrefu yn y cwmni.

Byddant hefyd yn sicrhau bod y rhaglen waith yn briodol ar gyfer blwyddyn y lleoliad gwaith, gan eich galluogi i gael y budd pennaf o'ch amser gyda'r cwmni.

Rhaid i leoliadau Blwyddyn mewn Diwydiant fod yn 40 wythnos o hyd ac yn cynnwys gwaith sy'n berthnasol i raglen eich gradd.

STRWYTHUR RHAGLENNI BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT

Semester 1

  • Darlithoedd paratoi ar gyfer swydd
  • Paratoi CVs a llythyrau eglurhaol
  • Paratoi ffurflenni cais
  • Paratoi ar gyfer asesiadau sgiliau a phrofion seicometrig
  • Technegau cyfweld a chyfweliadau ffug
  • Sgiliau gweithio mewn tîm
  • Cyflwyniadau gan gwmnïau sy'n chwilio am fyfyrwyr lleoliad
  • Cyflwyniadau gan fyfyrwyr sydd newydd ddychwelyd i'r brifysgol ar ôl blwyddyn eu lleoliad diwydiannol
  • Trafod cyfleoedd gwaith a chwestiynau
  • Cyngor a chymorth parhaus un-i-un
  • Rhestr o gyfleoedd ar gyfer lleoliadau
  • Sesiynau allsefydlu / rhwydweithio

Semester 2

  • Sesiynau galw heibio i drafod cyfleoedd a chwestiynau
  • Cyflwyniadau gan gwmnïau
  • Parhau â cheisiadau/cyfweliadau
  • Darlith ar Iechyd a Diogelwch cyn gadael i ymgymryd â'r lleoliad
  • Cyfweliadau ffug

Blwyddyn y lleoliad gwaith

Bydd pob myfyriwr yn cael tiwtor Blwyddyn mewn Diwydiant ar gyfer ei leoliad gwaitha fydd yn gwneud y canlynol:

Trefnu galwad ffôn gyda myfyrwyr sydd ar leoliad Blwyddyn mewn Diwydiant i sicrhau eich bod:

  • Mewn amgylchedd gwaith addas.
  • Wedi cael rhaglen waith berthnasol a chyraeddadwy.
  • Wedi cael rhaglen sefydlu addas yn y cwmni.
  • Yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni gofynion portffolio'r brifysgol.
  • Yn dilyn yr arweiniad a nodir yn y llawlyfr. Bydd y tiwtor Blwyddyn mewn

Diwydiant hefyd yn gwneud y canlynol:

  • Cysylltu â rheolwr llinell neu oruchwyliwr y myfyriwr ar leoliad gwaith i drafod cynnydd a wnaed ers dechrau yno.
  • Trafod unrhyw gwestiynau gan y gweithle neu'r myfyriwr.
  • Derbyn adroddiadau safonol gan fyfyrwyr, eu goruchwylwyr a llunio adroddiad i'r brifysgol ar gyfer pob myfyriwr.

Bydd rhan olaf y flwyddyn ar leoliad gwaith yn cynnwys cyflwyno prosiect i'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, a chyflwyno poster sy'n nodi uchafbwyntiau eich profiad yn ystod y digwyddiad Cyflwyno Posteri Blwyddyn mewn Diwydiant pan fyddwch yn dychwelyd i'r brifysgol.