MANTEISION ASTUDIO BLWYDDYN RYNGOSOD

Mae nifer o'n myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn dewis treulio Blwyddyn mewn Diwydiant fel rhan o'u cwrs gradd, sy'n gallu bod o fudd enfawr i'r cwmnïau sy'n cymryd rhan ac i'r myfyrwyr sy'n gweithio yn y cwmni.

Gall Blwyddyn mewn Diwydiant fod yn rhan o raglen gradd Baglor neu Feistr.

Gall lleoliad Blwyddyn mewn Diwydiant roi hwb gwych i'ch gradd a'ch gyrfa yn y dyfodol. Drwy'r cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant, byddwch yn cyflawni'r canlynol:

  1. Cynyddu eich hyder mewn amgylchedd gwaith.
  2. Gwella eich rhagolygon gyrfa ar ôl graddio drwy'ch galluogi i gynnig enghreifftiau o brofiad gwaith perthnasol sydd gennych.
  3. Ennill cyflog gyda blwyddyn allan o'r brifysgol*
  4. Cael y cyfle i wella sgiliau technegol ac annhechnegol drwy gael hyfforddiant i ddatblygu yn eich rôl.
  5. Gwella eich gallu i gynllunio drwy gymryd cyfrifoldeb am reoli eich llwyth gwaith yn effeithiol.
  6. Gwella ymwybyddiaeth o bwysigrwydd blaenoriaethau a therfynau amser yn y byd go iawn.
  7. Rhoi eich sgiliau adrodd a chyflwyno ar waith yn yr amgylchedd gwaith a hefyd drwy fyfyrio yn eich aseiniadau yn y brifysgol.
  8. Gwella eich lefel gallu i gael statws proffesiynol.
  9. Datblygu'ch rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant.
  10. Gwella eich ymwybyddiaeth o feini prawf busnesau'n gyffredinol y gellir eu trosglwyddo i unrhyw amgylchedd gwaith.

Mae dadansoddiad ystadegol hefyd yn cynnig tystiolaeth bod cymryd rhan mewn cynllun lleoliad gwaith yn gwella'r tebygolrwydd o gael dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch yn eich gradd.

Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn mewn Diwydiant yn llwyddiannus, bydd gennych y potensial i ennill credyd i leihau'r amser y mae'n ei gymryd i ennill Statws Peiriannydd Proffesiynol neu Siartredig o hyd at flwyddyn.

Yn ystod y flwyddyn ar leoliad gwaith, byddwch yn gallu asesu'r amgylchedd gwaith penodol, gan gynnwys y math o waith, y cwmni, y diwylliant a chyfleoedd yn y dyfodol.