Mynd i'r afael â syniadau effeithiol

A montage of images with fresh foods and a blood pressure monitor

Yr Her

Mae ymchwil helaeth wedi awgrymu bod bwyta cigoedd anifeiliaid wedi'u prosesu yn gysylltiedig â risgiau negyddol sylweddoli i iechyd, o'u cymharu â bwydydd ar sail planhigion, ond mae eu heffeithiau ar berfformiad cyhyrysgerbydol, fasgwlaidd ac athletaidd yn llai hysbys. Yn ogystal, ceir pryderon ynghylch creulondeb i anifeiliaid a'r effaith niweidiol ar yr amgylchedd a achosir gan ddulliau ffermio dwys. Felly, os gall mabwysiadu diet 'modern' ar sail planhigion liniaru rhai o'r pryderon hyn, heb effeithio'n negyddol ar iechyd, gweithrediad cyhyrysgerbydol er enghraifft, mae angen y dystiolaeth arnom i ddangos hyn.

Mae'r astudiaeth OMNIPLaNT (Omnivorous & Non-meat eater Integrative PhysioLogy and NutriTion), yn ymchwilio i effaith dietau sy'n seiliedig ar blanhigion ar ffisioleg ddynol, gan gynnwys cyhyrau, esgyrn, iechyd cardiofasgwlaidd, a pherfformiad ymarfer corff.

Y Dull

Mae astudiaeth OMIPLaNT yn cael ei chynnal ar hyn o bryd, a hyd yn hyn mae wedi recriwtio mwy na 170 o unigolion i gymryd rhan mewn astudiaeth fanwl o batrymau dietegol. Mae'r astudiaeth yn cynnwys defnyddio dyddiaduron pwysedig manwl i greu adroddiadau ar faeth, technegau delweddu uwch a dadansoddi gwaed. Mae'r ymchwilwyr hyd yn oed wedi dyfeisio Offeryn Effaith Amgylcheddol OMNIPLaNT y gall y cyhoedd ei ddefnyddio i gymharu effeithiau patrymau dietegol gwahanol ar yr amgylchedd.

Bydd canlyniad astudiaethau ymchwil OMNIPLaNT yn cyfrannu at lenyddiaeth a adolygir gan gymheiriaid ac yn adeiladu ar y dystiolaeth wyddonol a chymdeithasegol sydd ar gael ar hyn o bryd, er mwyn deall effeithiau patrymau dietegol ar sail planhigion ar iechyd, perfformiad dynol ac effaith gymdeithasegol dewis y patrymau dietegol hyn.

A cow chewing grass
An x-ray of knees

Yr Effaith

Ceir tystiolaeth anecdotaidd sylweddol o blaid effeithiau dietau ar sail planhigion ar iechyd yn hytrach na dietau hollysol, yn enwedig mewn perthynas â ffactorau cyhyrysgerbydol. Hefyd, ceir diffyg gwybodaeth gynhwysfawr am effeithiau'r dietau hyn, boed yn llesol neu'n niweidiol. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod pobl yn gallu cael digon o broteinau o fwyta bwydydd ar sail planhigion os yw hyn yn rhan o batrwm dietegol iach.

Mae dadansoddiad dietegol a defnyddio cynhyrchion gwaed, gan ddefnyddio uwchsain a delweddu pelydr x deuol, yn gallu asesu strwythur a chyfansoddiad cyhyrau, iechyd y rhydwelïau, perfformiad corfforol ac amcangyfrif croniad braster. Drwy'r wybodaeth hon, gall unigolion ddysgu am oblygiadau mabwysiadu dietau penodol, ac o bosib, wella eu hiechyd, gan leihau dibyniaeth ar gamwybodaeth a thystiolaeth anecdotaidd.

Text Reads Nodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe