Croeso i Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe, yr ŵyl fwyaf o'i bath yng Nghymru!

Bydd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe'n dychwelyd ar 26 a 27 Hydref rhwng 10am a 4pm, yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae'r Ŵyl yn dechrau gyda digwyddiad gwych a gynhelir cyn dechrau'r penwythnos yn Taliesin ddydd Gwener 25 Hydref, sy'n cynnwys ‘The Magical Mr West’ a'i berfformiad cyfareddol, Crafty Fools. Cynhelir y digwyddiad terfynol ddydd Llun 28 Hydref gyda’r cyflwynydd teledu adnabyddus, Andy Day a’i sioe gyffrous, Andy’s Dino Rap. Gweler Mwy o’r Ŵyl Wyddoniaeth am ragor o fanylion am y sioeau hyn a sioeau cyffrous eraill.

Bydd uchafbwyntiau'r penwythnos yn cynnwys gweithdy rap gwyddoniaeth gyda'r cyflwynydd Jon Chase, sgyrsiau difyr gyda'r seren TikTok Big Manny, y fforiwr nodedig Ray Mears a'r cyflwynydd teledu bywyd gwyllt, Megan McCubbin.

Dyn gyda swigod
bechgyn gyda robot
bechgyn gyda robot
Merch gyda chrwban
gwers achub bywyd
Grŵp o bobl
Bachgen
Dyn mewn swigen
Archarwyr
Merched
Pobl ar y beiciau
Arddangosfa
rhith-realiti
traciau trên
Stondin Prifysgol Abertawe
Amgueddfa'r Glannau yn llawn pobl