Neuadd Arddangos Am Ddim

Does dim angen cadw lle - dewch yn ddirybudd a mwynhewch! Archwiliwch ynni hydrogen, cwrdd â chŵn a chathod robotiaid, darganfyddwch sut oedd yr hen Eifftwyr yn mymïo’r meirw a dysgwch sut i garu cynrhon! Archwiliwch y gwaith ymchwil arloesol sy'n cael ei wneud ym Mhrifysgol Abertawe.

BioHUB logo

Atebion Gwyrdd: Sut mae cynnyrch naturiol yn pweru ein bywydau pob dydd

Blwch offer byd natur: Dysgwch ragor am sut gall cynnyrch naturiol helpu i greu dyfodol gwyrddach. Byddwn yn archwilio potensial cynnyrch naturiol o ficrobau, o beiriannau algaidd i ffyngau sy'n lladd trychfilod!

 

gair mewn llawysgrifen SNAC

Rhagflas SNAC ar gyfer gwyddoniaeth: Y seicoleg sy'n sail i ymddygiad bwyta

Cnoi Cil: Faint rydych chi'n meddwl am fwyd? Dewch i fwynhau byrbrydau gyda ni, wrth i ni archwilio'r wyddoniaeth sy'n gefndir i'r hyn rydym yn ei fwyta, ein dewis bwyd, y ffactorau sy'n sail i’n hymddygiad bwyta, a ffyrdd o fwyta deiet mwy iach a chynaliadwy.

llond llaw o beli lafa du

Arddangosiad o wresogi gofod carbon isel drwy ddeunyddiau storio thermol

Byddwn yn arddangos sut rydym yn bwriadu dal gwres o ddiwydiant a'i ddefnyddio i wresogi gofod. I ddangos hyn, byddwn yn cynnal digwyddiad rhyngweithiol lle gall cyfranogwyr gynhyrchu gwres o'n deunyddiau gan ddefnyddio eu hanadl.

plant yn gwneud rhai gweithgareddau

Arddangosfa Gweithgareddau Technocamps

Ydych chi'n meddwl y gallwch chi ddatrys Ciwb Rubik yn gynt na robot? Beth am sgorio gôl yn ein gêm pêl-droed robotiaid? Beth am raglennu twll mewn un gyda'n cwrs golff byr roboteg? Dewch i gymryd rhan ar ein stondin arddangosfa Technocamps!

detholiad o adnoddau addysgol mathemategol

Syrcas Fathemategol - detholiad o adnoddau addysgol mathemategol

Mae ein harddangosiadau a’n hadnoddau mathemategol llawn hwyl, swnllyd a rhyngweithiol yn diddanu ymwelwyr ac yn ennyn diddordeb mewn mathemateg gymhwysol. Gwneud mathemateg yn bleserus ac yn hygyrch i bawb.

Testun DVLA

Ydych chi'n Athrylith Codio

Rydym yn cynnal cystadleuaeth godio ar gyfer pob grŵp oedran rhwng 7 ac 16 oed dros y penwythnos gyda gwobrau TG gwych i'w hennill, ac wrth gwrs bydd digon o weithgareddau ymarferol i chi gymryd rhan ynddynt, os nad ydych am fod yn rhan o'r gystadleuaeth. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn!

Mae plentyn mewn gwisg yn pysgota hwyaid tegan

Carnifal Cemeg

Bwth carnifal ar gyfer plant cyn oed ysgol a phlant hŷn lle mae ymgeiswyr yn pysgota am hwyaid ac yna'n ateb cwestiwn ar y nwy cudd a restrir ar y gwaelod.  Ceir gwobrau am yr atebion cywir.

tegan rheilffordd gyda threnau

Arddangosfa/Gweithdy Rheilffordd Ryngweithiol

Cyfle i yrru trenau ar ein rheilffordd fodel a dysgu sut mae ein system reilffordd glyfar yn gweithio.

Plant gyda helmedau gwyn

Dur TATA

Cyflwyno argraffydd 3D ar gyfer creadigrwydd STEM ag arlliw cyffrous! Ymunwch â ni i gael nwyddau brand am ddim, a hwyl wrth liwio a phaentio wynebau!

chwilod bach

Yr holl bethau bychain..

Pwy sy'n gwneud y ddaear dan eich traed? Y pethau bychain sy'n gwneud y pridd yn iach a'r blodau lewyrchu.

diagram o feic hydrogen

Archwiliwch Ynni Hydrogen!

Dewch i ddarganfod sut gall hydrogen ein hatal rhag llygru pethau a darparu dyfodol gwyrdd ffyniannus!

Caru cynrhon

Caru cynrhon

Trowch eich ofn, eich anniddigrwydd neu'ch dirmyg tuag at gynrhon ar ei ben yn ein harddangosfa Caru Cynrhon sydd wedi'i threfnu gan Grŵp Ymchwil Cynrhon Prifysgol Abertawe

Dwy ferch fach yn gwneud gweithgareddau crefft

Ganwyd yng Nghymru: Plant Iach Teuluoedd Iach

Taflwch y bagiau ffa at y targedau gwahanol i ddangos eich gwybodaeth am yr hyn sy'n effeithio ar blant iach a bywyd teuluol iach.

Robotiaid yn rhuthro

Robotiaid yn rhuthro

Dewch i'n gweithdy robotiaid i gyfarfod â'n cŵn robot a'n cath robot 8 troedfedd

planedau gwahanol

Seryddiaeth

Gweithgareddau allgymorth i godi proffil Seryddiaeth yn Abertawe gydag arddangosiadau o delesgopau a chyfarpar a ddefnyddir gan aelodau o Gymdeithas Seryddiaeth Abertawe.

arwyddion iaith arwyddion

Codi Ymwybyddiaeth o Fyddardod

Deall sut mae'r glust yn gweithio a pham mae rhai pobl yn fyddar neu'n drwm eu clyw? Dysgwch sut i ddweud eich enw yn Iaith Arwyddion Prydain

arddangos gyda thaflenni a setiau teledu

Esports Wales - Llwybrau Gyrfa gydag e-chwaraeon

Dwlu ar Chwarae Gemau Fideo? Dewch draw i stondin Esports Wales a dysgu am y diwydiant chwarae gemau fideo yng Nghymru.

Y ferch gyda mami

Y CYFREITHIAU MUMMIFICATION

Darganfyddwch sut y bu i'r Eifftiaid hynafol fymiio eu meirw gyda'n mami ffug maint llawn

Cynaliadwyedd mewn byd materol

Cynaliadwyedd mewn byd materol

Ymunwch â ni i ddysgu mwy am y ffordd mae Peirianwyr a Gwyddonwyr Deunyddiau yn datblygu atebion ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Ewch ati i ddefnyddio microsgopeg ac adeiladu eich teganau eich hun sydd wedi'u pweru gan fatris a'r haul

plant ar draeth yn archwilio wyau siarc

Mentrwch i fyd realiti rhithwir i gael profiad cyffrous wrth adnabod ŵy siarc!

Dysgwch sut i adnabod rhywogaethau siarc drwy brofiad realiti rhithwir ymdrochol a ddyluniwyd ar gyfer Prosiect SIARC, gan fyfyrwyr MSc Prifysgol Abertawe. Gallwch archwilio, trin, ac ymchwilio i fanylion diddorol wyau siarcod sydd heb eu gweld erioed o'r blaen.

Gwybodaeth bwysig

Efallai bydd y stondinau arddangos a nodir yn ddarostyngedig i newid. Os oes gennych sylwadau ar y tudalennau gwe hyn neu’r cynnwys, e-bostiwch swanseasciencefestival@abertawe.ac.uk