Hyfforddi Bobl Proffesiynol Yfory

Rydym yn arwain y ffordd wrth hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y GIG a Gofal Iechyd. Am bron i dri degawd rydym wedi bod ar flaen y gad wrth hyfforddi gweithlu yfory ar gyfer y GIG. P'un a ydych am ddod yn Wyddonydd Gofal Iechyd, â diddordeb mewn dod yn Feddyg, Nyrs neu Fydwraig yn Abertawe, mae dull arloesol ac ymroddiad i wella darpariaeth gofal iechyd yn ein gwneud yn fan delfrydol ar gyfer y cam cyntaf ar eich gyrfa i ddatblygu'r GIG a gofal iechyd ar gyfer ein anghenion i'r dyfodol.

Cofrestrwch nawr

Dod yn …

Os na fedrwch aros am ein sgyrsiau Arddangosfa Gyrfaoedd Clinigol, mae ein Canllawiau Cyflym wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i archwilio'r cyrsiau y tu ôl i bob gyrfa gydag atebion i gwestiynau cyffredin y mae llawer o ymgeiswyr yn eu gofyn i'ch helpu chi i ddeall mwy am y gyrfaoedd hyn, beth mae'n ei gymryd i gyrraedd yno a pha ddrysau a allai fod ar agor i chi wedi i chi gymhwyso.

Ffordd Amgen i Ddod yn Feddyg

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Feddyg ac astudio Meddygaeth yn Abertawe, gallai ein cyrsiau Llwybrau at Feddygaeth fod yr opsiwn i chi. Bydd ein Llwybrau at Feddygaeth yn rhoi cyfweliad gwarantedig i fyfyrwyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad sylfaenol ar gyfer ein rhaglen Meddygaeth Mynediad i Raddedigion i astudio ein rhaglen Meddygaeth a dod yn Feddyg.

P'un a ydych am fod ag angerdd am wyddor bywyd yr hoffech ei ddilyn, nad oes gennych y cymysgedd cywir o Lefelau A, neu nad ydych wedi llwyddo i gael cyfweliad ar gyfer Meddygaeth israddedig, efallai mai ein Llwybrau at Feddygaeth yw'r cwrs iawn i chi.

Archwiliwch ein Llwybrau at Feddygaeth

Wyddoch chi?

Oeddech chi'n gwybod bod ystod o'n Cyrsiau Gofal Iechyd yn cael eu hariannu'n llawn gan Gynllun Bwrsariaeth y GIG.

Gwyddorau Gofal Iechyd
Student looking at anatomy

Mae Ymarferwyr Gwyddor Gofal Iechyd yn cyflawni rôl hanfodol wrth atal, diagnosio a thrin nifer enfawr o gyflyrau meddygol, gan gydweithio â meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Os ydych chi'n frwdfrydig iawn am wyddoniaeth a thechnoleg, ac yn ffynnu pan fyddwch yn helpu pobl eraill, gallai ein Graddau Gwyddorau Gofal Iechyd a ariennir gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru fod yn ddelfrydol i chi.

Graddau sydd ar gael:

 

Bydwreigiaeth Nyrsio Therapi Galwedigaethol Ymarferwr Adran Lawdriniaeth Gwyddor Barafeddygol

Ariannu eich gyrfa yn y GIG

Mae amrywiaeth o gyfleoedd ariannu os byddwch yn dewis astudio tuag at yrfa o fewn y GIG:

Eich Cyfweliad

Rydym yn cyfweld ag ymgeiswyr ar gyfer llawer o'n cyrsiau, gan gynnwys Nyrsio, Gwyddorau Gofal Iechyd, Fferylliaeth a Gwaith Cymdeithasol.

Rydym wedi creu canllaw 'tips cyfweliad' i roi gwybod i chi beth i'w ddisgwyl o'ch cyfweliad, a sut y gallwch baratoi'n well.

Awgrymiadau Cyfweliad