Beth yw Fferylliaeth?

Mae ein gradd Meistr integredig mewn Fferylliaeth yn adeiladu ar gryfderau’r Ysgol Feddygaeth, gan integreiddio gwyddoniaeth ac ymarfer i’ch paratoi i gwrdd â heriau newidiol Fferylliaeth.

Heddiw mae fferyllwyr yn cydweithio â meddygon a nyrsys mewn lleoliad clinigol felly bydd hyfforddiant yn Abertawe yn adlewyrchu hyn. Byddwch yn elwa o'n profiad a'n harbenigedd mewn gwyddor glinigol a bywyd, ymchwil, hyfforddiant ac ymarfer, gan eich helpu i ddatblygu eich ymarfer, gwyddoniaeth a gwybodaeth fferyllol.

Drwy gydol y cwrs, bydd eich astudiaethau yn adlewyrchu’r ffordd y mae Fferyllwyr yn ymdrin â chleifion a sut mae cleifion yn cyflwyno i Fferyllwyr, gan gyfuno dealltwriaeth wyddonol â sut y caiff ei chymhwyso; ‘arfer Fferylliaeth’.

Beth mae Fferyllfa yn ei gwmpasu?

Cyfuna fferylliaeth dealltwriaeth wyddonol â’i gymhwysiad clinigol ‘arfer Fferylliaeth’. Cewch eich dysgu gan arbenigwyr yn eu maes ar draws ystod o ymarfer gwyddonol gan gynnwys Fferylliaeth, Cemeg Fferyllol, Ffarmacoleg, Bioleg a Biocemeg, Anatomeg a Ffisioleg, Fferylliaeth Glinigol ac Ymarfer Fferylliaeth. Ynghyd â ffocws cryf ar sgiliau clinigol a chyfathrebu a thechnoleg ddigidol, byddwch yn datblygu'r rhinweddau academaidd, ymarferol a phersonol i ymarfer fferylliaeth yn gymwys a gyda hyder.

Pa yrfaoedd allai fod yn agored i mi pan fyddaf yn graddio?

Mae fferyllwyr yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau ym maes gofal iechyd a thu hwnt gan gynnwys:

  • Fferyllfeydd cymunedol
  • Meddygfeydd
  • Ysbytai
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl
  • Byd academaidd
  • Diwydiant fferyllol

Ar ôl graddio mae 98% o raddedigion fferylliaeth yn gweithio neu mewn astudiaeth bellach 6 mis ar ôl graddio.

Am wybod mwy?

Yn ogystal â'n gradd Fferylliaeth MPharm 4 mlynedd, rydym hefyd yn cynnig gradd 5 mlynedd, Fferylliaeth MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen), sy'n ddelfrydol os nad oes gennych y cymwysterau mynediad neu'r profiad gofynnol, neu rydych chi'n poeni am eich graddau.