Ymchwilydd PhD
Fy nheitl PhD yw Deall a gwella lles emosiynol preswylwyr hŷn cartrefi gofal
Fy nghefndir
Mae gen i BSc (Anrh) mewn Seicoleg o Brifysgol Reading ac MSc mewn Seiciatreg o Brifysgol Caerdydd. Gweithiais ym maes gofal preswyl yn cefnogi oedolion iau ag anableddau dysgu ac anhwylderau iechyd meddwl. Rwyf hefyd wedi gweithio ym maes addysg gynradd ac uwchradd (cyfrwng Cymraeg a Saesneg) yn cefnogi disgyblion gydag ASD, anawsterau dysgu ac anableddau dysgu. Mae fy rôl fwyaf diweddaraf wedi cynnwys cefnogi myfyrwyr prifysgol sydd â materion iechyd meddwl.
Fy ymchwil
Dechreuais PhD ym mis Gorffennaf 2016 yng Nghanolfan am Heneiddio Arloesol. Ariennir yr ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Rheoli Gofal Iechyd ac yndefnyddio dyluniad dulliau cymysg i ddatblygu gwell dealltwriaeth a golwg fanylach o lesiant oedolion hŷn mewn gofal preswyl yng Nghymru; archwilio ffyrdd o wella a chynnal llesiant ac ansawdd bywyd oedolion hŷn, a chynnig argymhellion ar gyfer arfer gorau wrth asesu a chynnal llesiant a gwella iechyd meddwl a llesiant oedolion hŷn mewn gofal preswyl.
Defnyddiodd y cam meintiol cyntaf yr ymchwil raddfa les safonol - y Ffurflen Fer Continwwm Iechyd Meddwl - er mwyn mesur llesiant meddyliol 141 oedolion hŷn o 22 cartref gofal preswyl.
Yna defnyddiwyd canlyniadau'r cam cyntaf i lywio a datblygu cwestiynau'r cyfweliad ar gyfer ail gam ansoddol yr astudiaeth, a oedd yn cynnwys cyfweliadau lled-strwythuredig gydag ugain o breswylwyr cartrefi gofal. Dadansoddir y rhain gan ddefnyddio Dadansoddiad Thematig (TA).
Darganfyddiadau rhagarweiniol
- Roedd y mwyafrif o’r cyfranogwyr yn fenywod (71%).
- Oed cymedrig y cyfranogwyr oedd 86.
- Sgoriodd cyfranogwyr yn is ar gwestiynau am gymdeithas, cyfrifoldebau a phrofiadau ystyrlon.
- Mae’r Ffurflen Fer Continwwm Iechyd Meddwl yn categoreiddio cyfranogwyr fel Dihoeni’, ‘Cymedrol iach yn feddyliol’, neu’n ‘Llewyrchus’.
- Roedd gan gyfranogwyr a gategoreiddiwyd fel rhai ‘dihoeni’ oedran cymedrig is (77).
- Oed cymedrig cyfranogwyr ar gyfer y categori ‘Cymedrol iach yn feddyliol’ a’r categori ‘Llewyrchus’ oedd 87.
Goruchwylwyr
Dr Charles Musselwhite, Dr Michael Coffey