Mae Sbaeneg ar gael ar ddwy raglen BA anrhydedd sengl (BA Ieithoedd Modern a BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd) ac amrywiaeth o gyfuniadau o raddau cydanrhydedd naill ai ar lefel Safon Uwch neu Ddechreuwyr. Caiff Sbaeneg ei haddysgu gan chwe aelod parhaol o staff, y mae pump ohonynt yn siaradwyr brodorol sy'n dod o Golombia, Sbaen, Uruguay a Venezuela. Y rhain yw: Dr Lloyd Davies, Dr Maria Fernandez-Parra, Dr Fede Lopez-Terra, Ms Tanya May, a Dr Rocio Perez-Tattam, a Dr Patricia Rodriguez-Martinez. Maent yn arbenigwyr mewn Astudiaethau Iberaidd a Lladin-Americanaidd.

Ar y BA Ieithoedd Modern, gallwch astudio Sbaeneg yn unig neu ar y cyd â Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg neu Fandarin. Byddwch yn dewis o blith opsiynau megis ‘The Evolution of the Spanish Language’, ‘Barcelona / Buenos Aires’, a ‘Hispanic Identities’, yn ogystal â Chyfieithu, y Gweithdy Cyfieithu ac, yn eich blwyddyn olaf, y traethawd hir. Mae gennym bartneriaethau gyda'r prifysgolion canlynol yn Sbaen lle gallwch dreulio eich blwyddyn dramor: Alcalá de Henares, Bilbao, Cáceres, Madrid a Seville. Gallwch hefyd weithio fel Cynorthwy-ydd Iaith y British Council neu ymgymryd â lleoliad gwaith. Mae BA Ieithoedd Modern yn cynnig cwricwlwm eang gyda thri llwybr, mewn Diwylliant, Addysg a Chyfieithu.

Wrth astudio am y BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, byddwch yn astudio Sbaeneg naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag iaith arall. Yn ogystal, byddwch yn astudio modiwlau arbenigol megis Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur, a Chysyniadau mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, neu Efelychu Swyddfa Gyfieithu. Yn ystod eich Blwyddyn Dramor, byddwch yn ymarfer Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd mewn dau sefydliad o'n rhestr o bartneriaid uchel eu bri. Yn achos Sbaeneg, gallwch ddewis rhwng Barcelona, Granada, Madrid, Seville, Valencia a Valladolid.

Gall pob myfyriwr gymryd rhan yn y Café Guay wythnosol ac ymuno â Chymdeithas Sbaeneg y Brifysgol.

Gallwch arbenigo mewn Sbaeneg ar y graddau MA mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd a Chyfieithu Proffesiynol, sydd hefyd yn cynnig opsiynau interniaeth ac astudio dramor. Ar hyn o bryd, mae gennym dri o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raddau ymchwil; ar bynciau Ysbaenaidd yn y Ganolfan ar gyfer Astudiaeth Gymharol o Bortiwgal, Sbaen a Chyfandiroedd America (CEPSAM).