Darganfyddwch ein triciau a’n cyngor

Yma yn Swyddfa Recriwtio Prifysgol Abertawe, rydym o hyd yn chwilio am wybodaeth newydd i rannu gydag ysgolion er mwyn cefnogi myfyrwyr gyda’r broses Addysg Uwch yn y ffordd gorau posib. Mae ein blogiau yn ffordd wych o ddarganfod y newyddion diweddaraf o Brifysgol Abertawe, gyda chymorth i chi ar arwain eich myfyrwyr trwy’r broses UCAS.

Cadwch lygaid am flogiau misol o’n Swyddogion Recriwtio Myfyrwyr Israddol, a chysylltwch â ni os hoffech chi drefnu sesiynau arbennig addysg uwch ar gyfer eich myfyrwyr ar y pynciau a soniwyd amdano.

Staff ar ford cynhadledd

Arweinwyr y Brifysgol UniTasterDays

Lluniwyd Canllaw Myfyrwyr i’r Brifysgol gan UniTasterDays.com mewn cydweithrediad â HELOA, i gefnogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwych am fynd i’r brifysgol. Mae cynnwys golygyddol wedi’i ddarparu gan fwy na 40 o arbenigwyr prifysgolion, gan gynnwys Prifysgol Abertawe.

Mae’r canllaw hwn wedi’i rannu’n  adrannau a gynlluniwyd i gefnogi myfyrwyr gyda chamau gwahanol yn eu teithiau penderfyniadau addysg uwch, gan gynnwys:  rhesymau dros ystyried mynd i’r brifysgol, cyngor wrth ddewis prifysgol, cymorth gyda ffïoedd a chyllid, help wrth gyflwyno ceisiadau, yr hyn i’w ddisgwyl yn ystod eu cais a phan fyddant yn dechrau eu cwrs.

Cewch eich copi AM DDIM nawr - ni fydd angen cofrestru.