Mae adolygu'n hollbwysig am ei fod yn atgyfnerthu dysgu, yn egluro dealltwriaeth ac yn eich helpu i gofio gwybodaeth. Bydd paratoi'n drylwyr ar gyfer arholiadau'n helpu eich hyder ac yn arwain at berfformiad academaidd gwell.

Adolygu Cynhyrchiol

Gyda’r arholiadau’n prysur agosáu, mae adolygu’n hollbwysig. Ond, wrth feddwl am adolygu, ansawdd sy’n bwysig, nid faint rydych yn ei wneud: adolygu’n effeithiol, yn lle gor-adolygu. Yn hytrach na symud i mewn i’r llyfrgell am yr ychydig wythnosau nesaf ac adolygu 10 awr y dydd, mae’n bwysig gosod nodau adolygu realistig a neilltuo amser i ymlacio hefyd. Dyma rai awgrymiadau sut gallwch gyflawni hyn.

Adolygu Cynhyrchiol
myfyriwr yn adolygu

Dysgu popeth ar y funud olaf

Wrth gerdded drwy'r llyfrgell ddoe, roeddwn i'n ddigon ffodus i fod yn bresennol i'r ymgais funud olaf flynyddol i ddysgu popeth: grwpiau o fyfyrwyr wedi'u gwasgu at ei gilydd o amgylch y byrddau, yn adolygu fel lladd nadroedd i geisio cofio cymaint o wybodaeth â phosibl cyn rhuthro i neuadd arholiad a 'dadlwytho'r meddwl' i'w llyfrynnau arholiad.

Ymgais munud olaf i ddysgu popeth
Grŵp o fyfyrwyr sy'n adolygu yn y llyfrgell

Sut i lwyddo mewn arholiadau

I'r rhan fwyaf o bobl, dyw edrych ar amserlen arholiadau ddim yn ffordd wych o ddechrau’r Flwyddyn Newydd, ond dilynwch yr awgrymiadau hyn am arholiadau a rhoi'r cyfle gorau i chi’ch hun lwyddo ym mis Ionawr.

Chwe Awgrym i Lwyddo mewn Arholiadau
myfyriwr yn dal papur arholiad wedi'i farcio