Eich canllaw i fenthyg adnoddau o'r llyfrgell

Myfyriwr yn dewis llyfr oddi ar silff yn y llyfrgell

Hawliau benthyca

Mae adnoddau'r llyfrgell ar gael i'w fenthyg gan fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe a benthycwyr allanol y llyfrgell (aelodau'r cynlluniau benthyca Mynediad SCONUL a Llyfrgelloedd Ynghyd). Gweler y categorïau isod am fwy o wybodaeth am hawliau benthyca ar gyfer pob grŵp o fenthycwyr y llyfrgell.

Myfyrwyr israddedig

Nifer o eitemau: 
Gall myfyrwyr israddedig benthyg hyd at 30 eitem ar un adeg (gan gynnwys uchafswm o 15 eitem o Lyfrgell Parc Dewi Sant).

Cyfnodau benthyca: 
Y cyfnod benthyca arferol yw 4 wythnos, gyda'r eithriadau canlynol:

  • Pan fenthycir eitemau sydd ar alw uchel (eitemau gyda cheisiadau sydd heb eu cyflawni, gan ddefnyddwyr eraill y llyfrgell sy'n aros i fenthyg yr eitem), caiff y cyfnod benthyca ei fyrhau i 1 wythnos nes y bod pob cais am yr eitem wedi ei gyflawni.
  • Os gofynnir defnyddiwr y llyfrgell arall am eitem rydych chi wedi ei fenthyg, adelwir y benthyciad a chaiff y cyfnod benthyca ei fyrhau i 1 wythnos o'r dyddiad cafodd y benthyciad ei adalw.
  • Y cyfnod benthyca ar gyfer gliniaduron a benthycir o'r loceri gliniaduron yw 2 wythnos.

Ceisiadau: 
Gall myfyrwyr israddedig cael uchafswm o 15 o geisiadau ar eu cyfrif llyfrgell ar unrhyw un adeg.

Myfyrwyr ôl-raddedig Staff Benthycwyr allanol

Cadw'n hysbys â'ch benthyciadau llyfrgell

Gallwch wirio eich dyddiadau dyladwy, adalwadau, adnewyddiadau, ceisiadau a gwybodaeth bwysig arall sy'n ymwneud a'ch cyfrif llyfrgell, drwy gofnodi i mewn i iFind. Gallwch hefyd gwirio'ch cyfrif llyfrgell ar unrhyw giosg hunan-fenthyca yn ein hadeiladau llyfrgell.

Anfonir Crynodeb Cyfrif Llyfrgell i bob benthyciwr drwy e-bost yn fisol, fel nodyn atgoffa o'r eitemau sydd ar fenthyg i gyfrif llyfrgell y benthyciwr ar hyn o bryd.

Os oes gennych chi ymholiad ynglŷn â'ch cyfrif llyfrgell neu'ch benthyciadau, cysylltwch â thîm Llyfrgell MyUni. Rydym yma i'ch helpu!

Myfyriwr yn benthyg llyfr drwy'r ciosg hunan-fenthyca

Rheoli'ch benthyciadau llyfrgell

Myfyriwr yn defnyddio gliniadur yn y llyfrgell

Benthyciadau gliniaduron ar gyfer myfyrwyr

Mae gliniaduron ar gael i'w fenthyg gan fyfyrwyr o'r loceri gliniaduron hunanwasanaeth yn Llyfrgelloedd Parc Singleton a'r Bae.

Gellir benthyg gliniadur am gyfnod o ddwy wythnos.

Sut i fenthyg gliniadur

Cymorth pellach gyda benthyg o'r llyfrgell