Golygfa o do'r adeilad o'r Athrofa Gwyddor Bywyd

Athrofa Gwyddor Bywyd

Agorwyd drysau adeilad cyntaf yr Athrofa Gwyddor Bywyd (ILS1) yn 2007 a chafodd ei alw'n un o drysorau Cymru oherwydd ei weledigaeth i ddatblygu ymchwil feddygol er budd iechyd, cyfoeth a llesiant pobl Cymru. Mae'r cyfleuster chwe llawr pwrpasol hwn ym mhen gorllewinol campws Singleton y Brifysgol yn werth £52 miliwn ac mae mewn lleoliad strategol rhwng yr Ysgol Feddygaeth ac Ysbyty Singleton.

Athrofa Gwyddor Bywyd 1

Golygfa o'r Athrofa Gwyddor Bywyd

Agorodd Athrofa Gwyddor Bywyd 1 yn 2007. Yn yr adeilad gosgeiddig hwn mae atriwm uchder llawn, ac mae'n defnyddio deunyddiau mewn ffordd greadigol i fanteisio i'r eithaf ar olau naturiol. Mae iddo chwe llawr, ac mae'n cynnwys labordai ymchwil arloesol, cyfleusterau hybu busnes pwrpasol i'n sefydliadau cleient a chaffi hamddenol ei naws lle y gall staff a myfyrwyr ryngweithio a rhannu syniadau. O ddydd i ddydd, bydd 200 o arbenigwyr ym maes ymchwil ac addysgu gwyddor feddygol, datblygu busnes a throsglwyddo technoleg yn gweithio yno.

Athrofa Gwyddor Bywyd 2

Mynediad ILS2

Mae Athrofa Gwyddor Bywyd 2 (ILS2) yn gartref i nifer o gyfleusterau ymchwil allweddol gan gynnwys y Ganolfan NanoIechyd, sef cyfleuster Ymchwil a Datblygu mynediad agored arbennig gwerth £22 miliwn ar gyfer datblygu gofal iechyd drwy ddefnyddio nanodechnoleg, Cyfleuster Ymchwil Glinigol ar y Cyd (JRCF) sy'n canolbwyntio ar driniaethau meddygol arloesol ar gyfer salwch cyffredin, Cyfleuster Delweddu Clinigol (CIF). Hefyd yn ein hadeilad ILS2 mae nifer o unedau ‘deori’, sy'n cynnig gofod i'w rentu i fusnesau newydd sy'n gweithio ym maes Gwyddor Bywyd.

Tenantiaid a Cyswllt

Tenantiaid a Chynllun Cyswllt

Gallwch rentu desg neu swyddfa yn un o’n hadeiladau, neu cofrestru fel Aelod Cyswllt, i fod yn rhan o’n rhwydwaith bywiog o fusnesau o’r un meddylfryd ym maes gwyddorau bywyd.

SUSIM

Canolfan Ddysgu trwy Efelychu a Throchi

Mae’r Ganolfan Efelychu a Dysgu Trochi yn defnyddio amrywiaeth o fethodolegau addysg sy'n seiliedig ar efelychiad i gefnogi dysgwyr i fyfyrio a datblygu mewn sefyllfaoedd byd go iawn.

NNIISH

Rhwydwaith Cenedlaethol Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd

Mae NNIISH yn dod â sectorau technoleg chwaraeon, technoleg meddygol, a gofal iechyd ynghyd, gan feithrin amgylchedd delfrydol ar gyfer arloesi a datblygu syniadau.

Uned Treialon Abertawe

Uned Treialon Abertawe

Mae STU yn cynnig cyngor a chymorth i dimau clinigol wrth gynllunio treialon newydd ac wrth wneud cais am grantiau. Yna maent yn gweithio i ddatblygu, cychwyn, cynnal, rheoli, dadansoddi ac adrodd ar astudiaethau.

Gwyddor Data Iechyd

Gwyddor Data Iechyd

Mae Gwyddor Data Iechyd yn faes cynyddol ac amlddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar gasgliadau o unigolion a'u profiadau biolegol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Technoleg Dadansoddol

Technoleg Dadansoddol

Mae Technoleg Dadansoddol yn defnyddio sbectrometreg màs i ddadansoddi offer confocal a samplau fferyllol, biotechnoleg a gweithgynhyrchu.

Sefydliad AWEN

Sefydliad AWEN

Mae’r Ganolfan Heneiddio Arloesol yn allweddol wrth alluogi ein hymchwilwyr i weithio gyda sefydliadau eraill ac archwilio agweddau penodol ar ymchwil heneiddio a dylanwadu ar bolisi.

Canolfan Technoleg Iechyd

Canolfan Technoleg Iechyd

Mae Canolfan Technoleg Iechyd yn dod â phartneriaid o ddiwydiant, y byd academaidd, a'r GIG ynghyd o fewn y lleoliad gwyddorau bywyd a gofal iechyd i ysgogi ymchwil ac arloesi i ddatblygu, gwerthuso a defnyddio technolegau newydd.

Cyfleuster Delweddu Clinigol

Cyfleuster Delweddu Clinigol

Mae Cyfleuster Delweddu Clinigol yn hwyluso ymchwil glinigol mewn cynhyrchion fferyllol o fewn oncoleg, cymhwyso MRI yn glinigol a datblygu llwybrau clinigol sy'n seiliedig ar ddelweddau.

Academi Iechyd a Llesiant

Academi Iechyd a Llesiant

Mae’r Academi Iechyd a Llesiant yn cynnig gwasanaethau fel osteopathi, awdioleg, a chardioleg, gan ddefnyddio cryfderau ymchwil y Brifysgol ar gyfer addysgu o safon uchel a chadarnhau buddion cymunedol.

Canolfan Economeg Iechyd Abertawe

Canolfan Economeg Iechyd Abertawe

Mae SCHE yn canolbwyntio ar ddatblygu a chymhwyso dulliau economeg iechyd i faterion ‘bywyd go iawn’ mewn polisi a darpariaeth gofal iechyd.

Cyfleuster Ymchwil Clinigol ar y Cyd

Cyfleuster Ymchwil Clinigol ar y Cyd

Nod JCRF yw cynyddu a darparu astudiaethau ymchwil clinigol o fewn y bwrdd iechyd trwy werthuso meddyginiaethau, gweithdrefnau a dyfeisiau newydd.

Beth sy'n digwydd yn yr Athrofa Gwyddor Bywyd?

Rydw i’n Hyrwyddwr