Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n fyfyriwr graddedig â gradd mewn maes gwahanol ond yn frwdrydig am seicoleg? Y rhaglen yw eich porth i yrfa newydd. Mae'r cwrs wedi'i deilwra i unigolion sydd am symud i faes seicoleg ac ennill cymhwyster wedi'i gydnabod gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), a fydd yn eich cymhwyso ar gyfer Aelodaeth Siartredig i Raddedigion. Dyma gam hanfodol i'r rhai sy'n awyddus i ymgymryd â rolau proffesiynol mewn seicoleg glinigol, addysgol, fforensig, iechyd ac arbenigeddau seicolegol eraill yn y DU.
Mae'r rhaglen MSc hon yn cwmpasu’r holl feysydd seicoleg craidd mae'r BPS yn gofyn amdanynt gan gynnwys:
- Seicoleg Wybyddol: deall gweithrediad y meddwl dynol
- Seicoleg Gymdeithasol: archwilio sut mae unigolion yn dylanwadu ar eraill a sut mae eraill yn dylanwadu arnyn nhw
- Seicoleg Ddatblygiadol: astudio twf seicolegol a newidiadau ar hyd oes
- Seicoleg Fiolegol: dysgu am seiliau biolegol ymddygiad
- Gwahaniaethau Unigol: ymchwilio i agweddau amrywiol ar bersonoliaeth a deallusrwydd
- Dulliau Ymchwil: meistroli'r technegau a'r methodolegau sy'n hanfodol ar gyfer ymchwil seicolegol
I gyfoethogi'ch profiad dysgu, rydym yn cynnig cyfres o 'ddosbarthiadau meistr' gan arbenigwyr sy'n dangos sut mae'r meysydd craidd hyn yn berthnasol i ymchwil ac ymarfer proffesiynol. Byddwch chi hefyd yn ymgymryd â phrosiect traethawd estynedig, dan oruchwyliaeth academydd profiadol, gan roi cyfle i chi gynnal ymchwil wreiddiol mewn agwedd gyfoes ar seicoleg.
Byddwch chi'n datblygu sgiliau hanfodol megis meddwl yn feirniadol, datrys problemau, cyfathrebu, gwaith tîm a hunanreolaeth. Byddwch chi hefyd yn meithrin ymwybyddiaeth foesegol, cyfrifoldeb cymdeithasol a sensitifrwydd diwylliannol. Bydd yr elfennau hyn yn eich paratoi am astudio pellach, ymchwil neu ymarfer seicoleg proffesiynol, a byddant yn agor drysau i amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn sectorau gwahanol.