Cystadleuaeth ysgrifennu genedlaethol mawr ei bri ar gyfer ysgrifenwyr a anwyd neu sy’n byw yng Nghymru yw Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies. Cafodd y gystadleuaeth ei chreu nôl ym 1991 ac rydyn ni’n falch iawn o allu i rheoli wobr hon y mae sôn mawr amdani ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ar y cyd â Parthian Books.

Ynglŷn â Rhys Davies

Rhys Davies

Roedd Rhys Davies, a anwyd ym Mlaenclydach ger Tonypandy yn y Rhondda ym 1901, gyda’r ysgrifenwyr rhyddiaith Cymreig mwyaf ymroddedig, toreithiog a medrus a oedd yn ysgrifennu’n Saesneg. Gan ymroi’n ddiwyro a heb fawr o barch tuag at lwyddiant masnachol, bu’n ymarfer crefft yr ysgrifennwr am ryw bum deg o flynyddoedd ar ffurf y stori fer a’r nofel gan gyhoeddi yn ystod ei oes gorff sylweddol o waith sydd bellach yn waddol i’w fri llenyddol. Rhwng popeth, ysgrifennodd fwy na chant o straeon, ugain nofel, tair nofel fer, dau lyfr topograffigol am Gymru, dwy ddrama a hunangofiant.

Gwobrau

  • Gwobr 1af - £1,000 o bunnoedd sterling a chaiff y cais buddugol ei gyhoeddi mewn antholeg o straeon byrion a gyhoeddir gan Parthian Books yn 2024.

  • 11 x Gwobr arall/Rownd derfynol gwobrau - £100 yr un a chaiff y ceisiadau eu cyhoeddi mewn antholeg o straeon byrion a gyhoeddir gan Parthian Books yn 2024.

Rebecca F. John

Mae’n bleser mawr gennym ni gyhoeddi y bydd Rebecca F. John yn feirniad gwadd ar gyfer cystadleuaeth 2024

Mae Rebecca F. John yn awdur pum llyfr i oedolion - Clown's Shoes, The Haunting of Henry Twist, The Empty Greatcoat, Fannie, a Vulcana. Yn flaenorol, cafodd ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Stori Fer The Sunday Times, Gwobr Nofel Gyntaf Costa, ac ar hyn o bryd mae ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Yn 2022, cyhoeddodd ei llyfr cyntaf i blant, nofel oedran cynradd o'r enw, The Shadow Order, trwy Wasg Firefly. Mae Rebecca yn byw yn Abertawe gyda'i phartner, eu meibion a'u cŵn. Mae hi'n dwlu ar gerdded, y môr a darllen am gynifer o fydau gwahanol â phosibl.

@Rebecca_Writer | Instagram @rebeccafjohnwww.rebeccafjohn.com

Mae Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies yn falch o gyhoeddi rhestr fer 2024.

Brennig Davies - PHOTO

Un o Fro Morgannwg yw Brennig Davies. Enillodd Wobr Agoriadol Awduron Ifanc y BBC yn 2015 yn ogystal â'r Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2019 a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Stori Fer Rhys Davies 2021. Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi yn y London Magazine a Poetry Wales, ac wedi cael ei ddarlledu ar BBC Radio 4. Yn 2023, cafodd ei ddewis yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli.

X: @BrennigDavies

Morgan Davies - Photo

Mae Morgan Davies yn ysgrifennu am dirweddau, lleoedd a byd natur. Mae wedi ennill gradd Meistr â rhagoriaeth mewn ysgrifennu creadigol o Brifysgol Caeredin, ac mae'n meddu ar PhD mewn ysgrifennu creadigol o Brifysgol Aberystwyth a dyfarnwyd Ysgoloriaeth Ymchwil ôl-raddedig adrannol iddo ar gyfer hon. Mae Morgan wedi ysgrifennu ar gyfer New Welsh Review a Nation.Cymru, a chyhoeddwyd a pherfformiwyd ei straeon byrion sydd wedi'u lleoli yng nghefn gwlad Cymru. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Burning Bracken, yn 2022 gan Victorina Press. Mae'n byw yng nghanolbarth Cymru gyda'i wraig a'i blant.

X: @MDaviesWriter 

Kamand Kojouri - PHOTO

Mae Kamand Kojouri yn Athro Cysylltiol Saesneg yn y Brifysgol Americanidd yn Dubai. Mae ganddi MA mewn ysgrifennu creadigol o Brifysgol y Ddinas, Llundain a PhD o Brifysgol Abertawe. Cyrhaeddodd nofel ei MA y rhestr fer ar gyfer gwobr Peters Fraser + Dunlop, ac mae wedi cael ei chynnwys ar y BBC, El País, a The Irish Times. Mae'r holl freindaliadau o'i chasgliadau barddoniaeth, The Eternal Dance (2018) a God, Does Humanity Exist? (2020), yn cael eu rhoi i The Trevor Project and Child Foundation. Mae hi hefyd yn ariannu mentrau plannu coed yn Affrica Is-Sahara, gyda 2,920 o goed eisoes wedi'u plannu.

X: @KamandKojouri  |  Instagram: @kamandkojouri  |  Facebook: @KamandKojouri  |  LinkedIn: Kamand Kojouri

Dave Lewis - PHOTO

Mae Dave Lewis yn ysgrifennwr, yn fardd ac yn ffotograffydd o Gilfynydd. Astudiodd sŵoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, addysgodd fioleg yn Kenya ac mae'n dwlu ar deithio. Mae'n cynnal y Gystadleuaeth Barddoniaeth Gymraeg Ryngwladol a'r Gwobrau Llyfrau Barddoniaeth. Mae ei gerdd wych, Roadkill, yn amlinellu gwrthdaro rhwng dosbarthiadau cymdeithasol ac mae ei gasgliad, Going Off Grid, yn rhybuddio am beryglon cyfalafiaeth ddigidol. Mae ei waith diweddaraf, Algorithm, yn ystyried AI, rhyfel, hil, cariad a theithio. Mae wedi llunio trioleg o straeon trosedd a'r nofel o fri, The Welsh Man. Mae'n hoff o gŵn, eliffantod a chwrw go iawn.

Gwefan: www.david-lewis.co.uk

Kapu Lewis - PHOTO

Awdur a bardd Cymreig ag awtistiaeth yw Kapu Lewis , ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn defnyddio adrodd straeon i archwilio iechyd meddwl a niwroamrywiaeth. Dechreuodd Kapu ei gyrfa fel newyddiadurwr, gan wneud interniaeth gyda'r Western Telegraph yn Sir Benfro a'r Carmarthen Journal ac yna aeth i Ysgol Newyddiaduriaeth Caerdydd. Mae bellach yn ymgynghorydd ar gyfer y teledu a ffilm.

Magwyd Kapu yn Sir Gâr a bellach mae'n rhannu ei hamser rhwng Llundain a gorllewin Cymru. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi gan Epoque Press, The Berlin Literary Review, Handwritten & Co., The Mechanics’ Institute Review, Erro Press a The Menteur.

Gwefan:  www.kapulewis.com  |  X:  @kapulewis  |  Instagram:  @kapulewis  |  Threads:  @kapulewis  Facebook:  Kapu Lewis  |  TikTok:  @kapulewis

Lloyd Lewis - Photo

Mae Lloyd Lewis yn awdur ac yn gyfieithydd o Gymru. Wedi'i eni a'i fagu ym Morgannwg, ar ôl iddo astudio llenyddiaeth Ffrangeg yn y Brifysgol, penderfynodd ef dreulio blwyddyn yn ne-orllewin Ffrainc. Mae ef heb lwyddo i ddychwelyd eto ac mae'n byw yn Bordeaux ar hyn o bryd gyda'i wraig a'u dwy ferch.

Polly Manning - PHOTO

Magwyd Polly Manning yn Sir Gâr ac mae'n byw yn Abertawe. Mae'n ysgrifennu straeon byrion am fywydau pob dydd pobl yn ne Cymru, ac mae ei gwaith ffeithiol wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau megis VICE, Planet, y Western Mail a The Welsh Agenda. Yn 2022, dyfarnwyd Grant Awduron The White Pube iddi a bydd hi'n graddio'n fuan yn y radd MA Ysgrifennu Creadigol: rhaglen Ffuglen Ryddiaith ym Mhrifysgol East Anglia, lle roedd hi'n Ysgolhaig Annabel Abbs 2023-24. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar ei chasgliad cyntaf o straeon byrion.

X: @polly_manning_  |  Instagram: @polly_manning_

Siân Marlow - PHOTO

Symudodd Siân Marlow, sydd wedi'i geni a'i magu ym Mrymbo, sef pentref bach ger Wrecsam yng ngogledd Cymru, i Reading yn 2010, lle mae'n byw gyda'i gŵr a'u mab a'u dau gi mawr. Dechreuodd Siân, sydd wedi graddio mewn Ieithoedd Modern o Goleg Prifysgol Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, gan arbenigo mewn Swedeg ac Almaeneg, ei busnes cyfieithu bach ei hun fel ffordd o gyfoethogi ei diddordeb mewn geiriau ysgrifenedig. Ar hyn o bryd, mae hi'n gweithio ar radd Meistr mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Reading ac mae hi newydd gwblhau ei nofel gyntaf. Ar wahân i'w brwdfrydedd am lyfrau, mae Siân yn dwlu ar ganu a mynd am droeon hirion gyda'i chŵn.

LinkedIn: Siân Marlow 

 

Keza O'Neill

Magwyd Keza O'Neill yn Aberystwyth. Astudiodd Ffrangeg yn Sheffield a Quebec ac enillodd MA mewn Ysgrifennu Creadigol gyda Rhagoriaeth o'r Brifysgol Agored. A hithau'n hyfforddwr ac yn fentor cymwysedig, treuliodd Keza 15 o flynyddoedd yn gweithio ym maes Gweithrediadau Pobl, gan gefnogi cleientiaid ledled y byd. Wedi byw a gweithio mewn chwe gwlad, mae ganddi ddiddordeb mewn perthnasoedd rhwng pobl a lleoedd ac arwyddocâd 'cartref' wrth lywio hunaniaeth.

Enillodd stori Keza ‘Lucky Strike’ Wobr Sansom a daeth yn drydydd yn rhestr Gwobr Stori Fer Bryste. Cyrhaeddodd y rhestr hir ar gyfer Gwobr Stori Fer Caerfaddon, Gwobr CWA Debut Dagger a Gwobr Ffuglen Lucy Cavendish, ac mae hi bellach yn byw ym Mryste er mwyn bod yn agos i gartref dros y bont.

Instagram: @kezawrites

Tanya Pengelly - PHOTO

Mae Tanya Pengelly'n awdur sy'n byw yn Swydd Warwick, a anwyd ac a fagwyd yng Nghaerdydd. Gyda gwerthfawrogiad dwfn o straeon Cymreig, bu'n gadeirydd bwrdd Beyond the Border - Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru tan 2023. Mae gan Tanya PhD mewn ysgrifennu creadigol a damcaniaeth naratif ac mae'n arbenigo mewn ffuglen ddamcaniaethol lenyddol, gan ganolbwyntio ar dirwedd a realaeth a seicolegol. Mae ei gwaith wedi'i gynnwys yn antholeg The Book of Coventry gan Comma Press, ac fe wnaeth gyrraedd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Stori Fer Driftwood Press yn 2024.

Instagram: @tanyapengelly  |  Website: www.tanyapengelly.com

Anthony Shapland - PHOTO

Magwyd Anthony Shapland yng Nghwm Rhymni. Roedd ef yn rhan o'r garfan Cynrychioli Cymru yn 2022, sef yr un flwyddyn pan gafodd ei gynnwys yn Cree: The Rhys Davies Short Story Award Anthology (Parthian). Mae'n ymddangos yn y blodeugerddi, Cymru & I, (Seren / Inclusive Journalism) ac (un)common (Lucent Dreaming). Roedd yn Awdur wrth ei Waith Gŵyl y Gelli yn 2023 a bydd ei waith ffuglen, 'Feathertongue', ar gyfer cyfres Short Works ar Radio Four, yn cael ei ddarlledu yn nhymor yr hydref 2024. Cyhoeddir ei nofel gyntaf, A Room Above a Shop, gan Granta yng gwanwyn 2025.

X: @AnthonyShapland  |  Instagram: @anthonyshapland

Credyd Llun: Michal Iwanowski

Jo Verity - PHOTO

Ganwyd Jo Verity yng Nghasnewydd ac mae hi wedi byw yn Llundain, Cwmbrân a Chaerdydd. Ysgrifennodd ei stori fer gyntaf 25 o flynyddoedd yn ôl ac, yn 2003, enillodd 'Rapid Eye Movement' Gystadleuaeth Stori Fer Richard & Judy.

Dros y blynyddoedd, mae straeon Jo wedi cael eu darlledu ar Radio 4, wedi ennill cystadlaethau, gan gynnwys gwobr stori fer y Western Mail, a’u cyhoeddi mewn antholegau megis 'The Bus Stop Scheherazade' (Cinnamon Press). Enillodd 'Trespass' yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Rhys Davies 2011. Yn ogystal â ffuglen fer, mae Jo wedi cyhoeddi chwe nofel gyda Gwasg Honno ac, ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar ddiweddglo ei seithfed nofel.

X: @jo_verity

Cyhoeddir yr enillydd ym mis Tachwedd 2024, a bydd y flodeugerdd yn cael ei lansio ddydd Mercher 27 Tachwedd yn Waterstones Abertawe, yn cynnwys y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a’r enillydd cyffredinol, y golygydd Elaine Canning, y beirniad gwadd Rebecca F. John, a Chyfarwyddwr Parthian, Richard Davies.