Jess Smith

Mae Jess Smith yn fyfyriwr PhD sy'n gysylltiedig â'r ganolfan ymchwil i Gamblo Milwrol (MilGAM) ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae prosiect Jess yn canolbwyntio ar “understanding the lived experience of service personnel, veterans and affected others coping with harm from gambling.” Dan oruchwyliaeth Simon Dymond a Jamie Torrance, dechreuodd prosiect Jess ym mis Ionawr ar ôl cynnal adolygiadau manwl o ymchwil bresennol a phori'n ddyfnach i'r pwnc.

Yn ystod PhD Jess, bydd hi'n cefnogi ac yn cynorthwyo prosiectau eraill er mwyn cyfrannu at ymdrechion ymchwil holl feysydd gwaith y ganolfan.

Simon Wright

Mae Simon Wright yn fyfyriwr PhD sy'n gysylltiedig â'r ganolfan Ymchwil i Gamblo Milwrol (MilGAM) ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae prosiect Simon yn canolbwyntio ar ymyriadau digidol ar gyfer materion gamblo anhrefnus a rhai cysylltiedig gyda'r poblogaethau milwrol. Dan oruchwyliaeth Simon Dymond a Martyn Quigley, dechreuodd prosiect Simon ym mis Ionawr 2024 ar ôl adolygu a chyfuno llenyddiaeth ar ei bwnc PhD.

Bwriad Simon yw cefnogi prosiectau eraill ym MilGam cyn dechrau ar ei brosiectau ei hun dros y misoedd nesaf.