Ms Beth Griffiths

Ms Beth Griffiths

Uwch-ddarlithydd mewn Ymarfer Uwch, Nursing
G03
Llawr Gwaelod
Bloc Dewi Sant 3 yr Ysgol Gwyddor Iechyd
Llety wedi'i brydlesu

Trosolwg

Mae Beth yn Uwch-ymarferydd Nyrsio ac yn rhagnodwr annibynnol.  Mae hi'n uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn addysgu'n bennaf ar y rhaglenni Rhagnodi Annibynnol Anfeddygol ar gyfer nyrsys/bydwragedd, fferyllwyr a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, ac Ymarfer Uwch mewn Gofal Iechyd. Mae Beth yn frwdfrydig am chwalu ffiniau mewn gofal iechyd i wella gofal cleifion.

Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn gofal ar gyfer pobl hŷn, ac ar ôl sefydlu modiwl mewn ‘Asesu’r Person Hŷn’, dyma ymagwedd a fydd yn datblygu ymhellach yn y dyfodol.

Am y rhan fwyaf o’i gyrfa mae hi wedi gweithio mewn lleoliadau gofal Sylfaenol rhwng y Practis Cyffredinol a’r Gymuned. 

Mae hi'n gweithio dri diwrnod yr wythnos yn addysgu ac yn parhau i ymarfer.

Meysydd Arbenigedd

  • Presgripsiynu Anfeddygol
  • Ymarfer uwch mewn gofal iechyd
  • Pobl hŷn
  • Practis Cyffredinol
  • Addysgu arloesol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Beth yn addysgu dosbarthiadau ôl-raddedig yn bennaf, sy’n cynnwys yn bennaf weithwyr proffesiynol gofal iechyd sydd wedi cofrestru. Mae’n ystyried eu bod yn ddysgwyr proffesiynol yn hytrach na myfyrwyr gan eu bod yn meddu ar gymaint o bethau y gallant eu cynnig yn y dosbarth, yn ogystal â chael budd o fod yn y dosbarth eu hunain. 

Mae ymchwil a thystiolaeth ynghylch gofal iechyd yn faes cymhleth sy’n symud yn gyflym, sy’n her i athrawon yn y maes hwn. Hefyd mae’n anodd iawn i staff gadw i fyny  â’r wybodaeth ddiweddaraf sy’n newid yn barhaus.  Mae’n rhaid iddynt barhau i ysgogi eu hunain i fod ar flaen y gad gyda’r newidiadau hyn, sy’n heriol iawn.  Prif ymagwedd Beth yw rhoi sgiliau allweddol i’r rhai sydd wedi cofrestru er mwyn eu galluogi i ddilyn yr arloesi a’r dystiolaeth newydd wrth iddynt godi.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau