Trosolwg
Ymchwilydd Gyrfa Cynnar awtistig yw Gemma, y bu ei PhD mewn Ieithyddiaeth yn ymchwilio i’r chwaliadau mewn cyd-ddealltwriaeth a all ddigwydd rhwng pobl awtistig ac anawtistig, yn seiliedig ar y syniad o ‘broblem empathi dwbl’. Mae ei hymchwil doethurol hefyd wedi cynnwys ffocws ar unigrwydd mewn awtistiaeth a’r defnydd o fethodolegau creadigol a chyfranogol.
Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe fel Swyddog Ymchwil ar y prosiect ‘Awtistiaeth: o’r mislif i’r menopos’ a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome dan arweiniad Dr Aimee Grant, roedd gan Gemma Gymrodoriaeth Ôl-ddoethurol ESRC ym Mhrifysgol Brighton mewn Polisi Cymdeithasol. Yn ei swydd bresennol mae Gemma hefyd yn tynnu ar ei phrofiad o weithio fel Nyrs Gynorthwyol Mamolaeth a bydwraig dan hyfforddiant yn ei hugeiniau cynnar.
Mae Gemma yn aelod o Gomisiwn San Steffan ar Awtistiaeth ac yn Gydymaith gyda’r Tîm Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant lle mae wedi cyfrannu at nifer o adroddiadau, prosiectau ac ymholiadau a gomisiynwyd gyda’r bwriad o wella’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer pobl awtistig a niwroamrywiol yn y DU, GIG Lloegr a Awdurdodau lleol.
Ar hyn o bryd mae Gemma yn gweithio ar ei monograff ‘Understanding Other in a Neurodiverse World’, sydd i’w gyhoeddi gan Pavilion Press yn 2024.