Trosolwg
Mae Dr Luke Davies yn ddarlithydd ar y llwybr ymchwil mewn Imiwnometaboledd yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Mae ganddo gefndir ym maes biocemeg (BSc) ac imiwnoleg (PhD) yng Nghymru, ac enillodd Gymrodoriaeth Henry Wellcome uchel ei bri i gefnogi ei ymchwil i imiwnometaboledd yn y Sefydliadau Cenedlaethol Iechyd yn Maryland, Unol Daleithiau America. Bydd Dr Davies bellach yn cymhwyso'r gwersi a ddysgwyd yn ystod ei ddegawd o archwiliadau i lid ac imiwnedd i addysgu yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac ymchwilio ymhellach i drin clefyd dynol.