A head shot of Lloyd

Dr Lloyd Brown

Darlithydd yn y Gyfraith, Law

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602954

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
145
Llawr Cyntaf
Adeilad Richard Price
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Lloyd ag Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton fel Darlithydd y Gyfraith ym mis Awst 2021. Mae Lloyd yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd lle enillodd LLB yn y Gyfraith yn 2011 a PhD yn y Gyfraith yn 2016.  Ar hyn o bryd Lloyd yw Cyfarwyddwr y Cyrsiau Ecwiti ac Ymddiriedolaethau 1 a 2 ac mae'n addysgu ar y modiwl 'Y System Gyfreithiol a Sgiliau'. 

Cyn ei benodiad, cafodd swyddi academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Birmingham, yn ogystal â swydd fel Darlithydd Gwadd ym Mhrifysgol Normal Beijing, Tsieina (2018). Yn ysgol y Gyfraith Birmingham, bu’n ddarlithydd amser llawn yn y gyfraith (2017-2020) gan addysgu amrywiaeth eang o bynciau ar lefelau sylfaen, israddedig ac ôl-raddedig. Mae diddordebau ymchwil Lloyd ym maes rheoleiddio eiddo tiriog, y marchnadoedd ariannol a'r amgylchedd, gyda diddordeb penodol mewn effaith rheoleiddio amgylcheddol ar sefydliadau ariannol. Cyhoeddwyd ei waith mewn sawl cyfnodolyn a adolygwyd gan gymheiriaid uchel eu parch gan gynnwys Environmental Law Review a Trusts & Trustees

Meysydd Arbenigedd

  • Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, Rhan IIA
  • Atebolrwydd Rhoddwyr Benthyciadau
  • Risgiau amgylcheddol
  • Diwydrwydd dyladwy
  • Rhwymedigaethau ymddiriedol a buddsoddi moesegol
  • Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG)
  • Ymchwil empiraidd a chyfw

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Canolbwyntiodd ymchwil PhD Lloyd ar sut y mae gweithredu'r gyfundrefn tir halogedig, a gafodd ei gorfodi'n statudol o dan Ran IIA Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, wedi effeithio ar gyllid benthyciadau masnachol ym manciau'r DU.  Cynhaliwyd yr ymchwil hon drwy gaffael data ansoddol drwy gyfweliadau lled-strwythuredig gyda gweithwyr proffesiynol elît o'r sector bancio. Taflodd y cyfweliadau hyn oleuni ar natur y risgiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â chyllid benthyciadau ar ôl Rhan IIA, ynghyd â'r gwahanol fathau o ddulliau diwydrwydd dyladwy y mae rhoddwyr benthyciadau yn eu defnyddio i ddileu risgiau o'r fath. At hynny, mae Lloyd wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfundrefnau llygredd pridd yn UDA (y gyfundrefn ‘Superfund’) a Tsieina ac wedi asesu effaith cyni a Brexit ar orfodi Rhan IIA yng Nghymru a Lloegr. 

Hefyd mae addysgu Ecwiti ac Ymddiriedolaethau Lloyd wedi'i arwain at ymchwil ar rôl risgiau Amgylchedd-Cymdeithasol-Llywodraethu (ESG) a rhagor o reoleiddio wrth ddiwygio ymagweddau cronfeydd pensiwn at reoli eu portffolios a'u harferion buddsoddi. Yn yr ymchwil hon, mae wedi archwilio'r broses o ‘wyrddu’r’ sector pensiynau a natur dyletswydd buddsoddi ymddiriedol ymddiriedolwyr.  Yn y pen draw, ei nod yw gwneud ymchwil sy'n cynorthwyo gyda'r gwaith o ‘ddadwladychu'r’ maes Ecwiti ac Ymddiriedolaethau. Ynghyd â’r uchod, mae Lloyd hefyd yn ymddiddori mewn Hanes Cyfreithiol ac mae'n dymuno archwilio'r lluosogrwydd a fu'n bodoli yn y system gyfreithiol cyn i Ddeddfau Barnweinyddiad 1873-1875 uno cyfraith gyffredin ac Ecwiti â'i gilydd.

Prif Wobrau