Dr Sara Jones

Dr Sara Jones

Uwch-ddarlithydd, Public Health

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 987382

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
133
Llawr Cyntaf
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Dr Sara Jones yw cyfarwyddwr rhaglen y radd BSc (Anrh) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'n addysgu'n bennaf ar y rhaglen hon yn ogystal â'r rhaglen MSc/PGDip mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd. Sara yw'r Arweinydd Cyflogadwyedd Academaidd ar gyfer yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cymhwysodd Sara fel nyrs yn 2009 ac yn nyrs iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol (ymwelydd iechyd) yn 2014. Mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad o weithio gydag oedolion a phlant mewn ysbytai ac yn y gymuned yn y DU ac yn Awstralia. Mae'n cynnal ei sgiliau proffesiynol a'i phrofiad drwy weithio sifftiau banc yn y GIG fel nyrs. Mae Sara'n dod â llu o brofiad o'r byd go iawn i'w gwaith addysgu.

Mae hi'n athrawes gynhwysol a brwdfrydig, ac arweiniodd hyn ati'n cael ei henwebu gan ei myfyrwyr a derbyniodd Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu yn 2024. Soniodd ei myfyrwyr am ei harddull addysgu ryngweithiol, ei hagosatrwydd a'i hymroddiad i sicrhau nad oes yr un myfyriwr yn cael ei adael ar ôl. Mae Sara'n un o Gymrodorion yr Academi Addysg Uwch.

Mae Sara hefyd yn cynnal gwaith ymchwil i'r Ganolfan Llaethiad, Bwydo Babanod ac Ymchwil Drosi (LIFT) gan gynnal ymchwil ar iechyd mamau a phlant, bwydo babanod a gordewdra mewn plentyndod. Mae ei gwaith yn aml yn cynnwys cydweithio â'r trydydd sector a sefydliadau cymunedol, ac mae ganddi brofiad o gynnal gwaith ymchwil dulliau cymysg gan gynnwys cynnal arolygon ar-lein, mesur twf plant, ymchwil ansoddol, gwyddoniaeth gymunedol ac adolygiadau systematig.  Nod ei gwaith ymchwil yw gwella gwasanaethau sy'n effeithio ar fenywod a phlant.

Mae ganddi ddiddordeb mewn bwydo babanod a phlant ifanc mewn argyfyngau (IYCF-E) ac yn 2016 bu'n gwirfoddoli fel arbenigwr bwydo babanod gyda Nurture Project International yn ei raglen ymateb yng Ngwlad Groeg.

Mae Sara'n athrawes ioga gymwysedig ac mae'n mwynhau ymarfer ac addysgu yn ei hamser hamdden.

Meysydd Arbenigedd

  • Nyrsio
  • Iechyd Cyhoeddus
  • Ymweliadau Iechyd
  • Bwydo babanod a phlant ifanc
  • Gwella iechyd a lles
  • Gordewdra ymhlith plant
  • Penderfynyddion cymdeithasol iechyd
  • Cyflogadwyedd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Sara'n addysgu amryw o bynciau gan gynnwys:

  • Penderfynyddion cymdeithasol iechyd
  • Sgiliau clinigol
  • Diogelu plant ac oedolion sy'n agored i niwed
  • Ymchwil
  • Maeth ar gyfer iechyd y cyhoedd
  • Datblygiad Plentyn
Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau