DATGELU I'R HEDDLU

Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i sefyllfaoedd pan fydd y Brifysgol yn derbyn ceisiadau gan asiantaethau sy'n gysylltiedig ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith neu asiantaethau eraill, am ddata personol myfyrwyr, staff neu unigolion eraill sy'n cael eu cadw gan y Brifysgol. Rhaid i'r holl ddata personol gael eu rheoli'n unol â GDPR y DU, gan sicrhau bod unrhyw ddatgeliad yn bodloni'r amodau ar gyfer prosesu "teg a chyfreithlon".

Cyn i ddata gael eu rhyddhau i asiantaeth gorfodi'r gyfraith, mae angen i ni sicrhau bod yr wybodaeth yn cael ei darparu i ymchwiliad dilys sydd wedi'i awdurdodi'n briodol. Os nad ydym yn fodlon bod sail ddilys ar gyfer rhyddhau'r wybodaeth, nid oes rhwymedigaeth arnom yn ôl GDPR y DU i wneud hynny. Os byddwn yn gwrthod rhyddhau'r wybodaeth, gall asiantaethau gorfodi'r gyfraith gael gorchymyn Llys i ofyn i ni ei darparu