Abaty Singleton

Mae aelodaeth y Senedd, a nodir yn Ordinhad 4, yn adlewyrchu rôl y Senedd fel llais academaidd ein Prifysgol ac mae'n cyd-fynd â strwythur Cyfadrannau'r Brifysgol. Cadeirydd y Senedd yw'r Is-ganghellor ac mae ei haelodaeth yn cynnwys:

  • Aelodau ex-officio: Aelodau o'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth, Aelodau o Dimau Arweinyddiaeth y Cyfadrannau, pob Dirprwy Is-ganghellor, Pob Pennaeth Ysgol, Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Academaidd, Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academi Hywel Teifi, Cyfarwyddwyr Gweithrediadau Cyfadrannau, ac aelodau sy'n fyfyrwyr;
  • Aelodau etholedig: Deunaw Athro (wedi'u hethol gan yr Athrawon gyda chyfanswm o chwech fesul Cyfadran) a chwe aelod staff academaidd nad ydynt yn Athrawon (wedi'u hethol gan y gymuned academaidd nad ydynt yn athrawon gyda chyfanswm o ddau fesul Cyfadran).

Gellir anfon unrhyw ymholiadau neu geisiadau am fanylion pellach at Ysgrifennydd y Senedd yn y cyfeiriad e-bost canlynol: L.A.Woollard@abertawe.ac.uk

Ceir rhestr lawn o aelodau presennol isod.