TIROEDD SYFRDANOL LLE GALLWCH WEITHIO, ASTUDIO A CHWARAE

Lleolir ein Campws Parc Singleton hanesyddol mewn parcdir hyfryd o fewn Parc Singleton; dyma un o brif fannau gwyrdd Abertawe sy'n darparu erwau o barcdir gwyrddlas i bawb eu mwynhau.

Mae’r tiroedd hirsefydlog hyn yn cynnig amrywiaeth o gynefinoedd, gyda glaswelltiroedd, coedtiroedd aeddfed, ardaloedd sydd wedi’u plannu a phyllau, gan helpu i gefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt.

Mae Campws y Bae newydd wrth ymyl y traeth a ger Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Twyni Crymlyn, sy'n cynnig cynefinoedd glan môr i chi eu harchwilio'n hamddenol.

Green Flag Award - a white tree icon with adult and child standing underneath it on a green background
1920s aerial shot of Singleton Park Campus

Gydag erwau o dir i’w harchwilio’n hamddenol, gan gynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Twyni Crymlyn ar Gampws y Bae a’n Gardd Fotaneg restredig ym Mharc Singleton, mae Prifysgol Abertawe yn cynnig amgylchedd awyr agored rhagorol y gall myfyrwyr, staff a’r gymuned eu mwynhau.

Mae tiroedd Prifysgol Abertawe ar agor i bawb. Cyn i chi ddod i’w mwynhau, beth am ddarllen am rai o’r trysorau cudd sydd gennym yn swatio yn ein tiroedd trawiadol drwy glicio ar y lluniau isod?

RHEOLI TIROEDD MEWN FFYRDD CYNALIADWY

Caiff ein tiroedd hyfryd eu rheoli gan dîm o arbenigwyr rheoli tiroedd proffesiynol sy'n ymrwymedig i'w datblygu a'u cadw, fel y gall ein cymuned amrywiol yn y Brifysgol fwynhau amgylchedd unigryw i gael seibiant o'u hastudiaethau neu eu gwaith.

Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda Thîm Cynaliadwyedd y Brifysgol i sicrhau y rheolir cyfrifoldebau amgylcheddol ac y caiff yr effaith ar yr amgylchedd ei lleihau.

Mae ein hymrwymiad i arferion cynaliadwy wedi’i amlinellu yn ein Cynlluniau Rheoli Tiroedd isod: