Hugh Gustafson, Rheolwr Perfformiad Rygbi
Mae Hugh yn rheoli ac yn cyfrannu at y gwaith o bennu cyfeiriad strategol, arwain a goruchwylio rygbi perfformiad ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Hugh yn sicrhau llwyddiant parhaus mewn cystadlaethau BUCS a Farsiti, gan feithrin diwylliant ac amgylchedd rygbi perfformiad uchel. Mae'n sicrhau llwybr clir a chadarn i'r gêm broffesiynol ac i chwarae rygbi rhyngwladol ar draws y rhaglenni perfformiad rygbi dynion a merched. Mae Hugh yn un o hyfforddwyr sgiliau academi'r Gweilch ac yn brif hyfforddwr ar gyfer Prifysgol Abertawe a Chlwb Rygbi Abertawe. Bu'n chwarae yn y rheng flaen dros y Gweilch, y Dreigiau a thîm Cymru o dan 20 oed.
Hyfforddwyr cynorthwyol:
- Joe Thomas, Hyfforddwr Ymosod / Cefnwyr
Mae gan Joe brofiad gwerthfawr o chwarae rygbi i'r Gweilwch/teigrod Caerlŷr/Dreigiau a bu'n aelod o staff hyfforddi gradd oedran gyda'r Gweilch.
- Lloyd Evans, Hyfforddwr Amddiffyn / Sgiliau
Bu Lloyd yn chwarae i'r Gweilch a chafodd Anrhydedd wrth chwarae i dîm saith bob ochr Cymru. Bu Lloyd yn ymwneud â hyfforddiant gradd oedran ac Academi Chwaraeon Gen 7s.
- Chris Thomas, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru
Roedd Chris yn gyn-chwaraewr rygbi i Glwb Rygbi Abertawe a Chlwb Rygbi Llanelli. Bu'n hyfforddwr ers dros bedair blynedd i Glwb Rygbi Abertawe, gradd oedran y Gweilch a Harriers Abertawe.