Rydym yn annog ceisiadau am ysgoloriaethau chwaraeon gan fyfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn cystadlu ar lefel uwch yn y gamp o'u dewis.
Rydym yn defnyddio proses cyflwyno ceisiadau ar-lein syml. Ar gyfer Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Abertawe, yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw cwblhau'r ffurflen ar-lein fer isod.
I gwblhau'r ffurflen a chael eich ystyried am un o'n hysgoloriaethau, bydd angen i chi gyflwyno cymaint o dystiolaeth â phosib i ddangos eich lefel bresennol o allu chwaraeon, gan gynnwys cyflawniadau yn y maes, nodau, yn ogystal â dau ganolwr wedi'u henwi i ategu eich cais. Hefyd, bydd angen arnoch eich rhif UCAS, neu eich rhif myfyriwr os ydych yn fyfyriwr presennol.
Ble Gallaf Gyflwyno Cais Am Ysgoloriaeth Chwaraeon Ym Mhrifysgol Abertawe?
Gall israddedigion gyflwyno cais am Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Abertawe gan ddefnyddio'r ffurflen isod o fis Tachwedd 2023 tan 31 Mawrth 31 2024 drwy gwblhau'r ffurflen ar-lein fer isod. Bydd modd cyflwyno ceisiadau eto am ychydig yn ystod y cyfnod clirio ym mis Awst: 15 – 25 Awst 2024.
Cais israddedig