Emmanuela Oladipo

Emmanuela Oladipo

Gwlad:
Nigeria
Cwrs:
BSc Economeg

Rwyf wedi cael profiad anhygoel o fyw yn Abertawe! I'r graddau y penderfynais i ddychwelyd ar gyfer astudiaethau pellach.

Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
1) Es i i weminar Economeg a ches i gyfle i weld rhai o'm darlithwyr ac aelodau staff eraill. Roedd hi'n ymddangos fel bod y modiwlau'n ddiddorol ac roeddwn i'n gallu gweld o'u hwynebau pa mor frwdfrydig oedd y darlithwyr. Meddyliais i, 'mae'r darlithwyr hynny'n edrych yn gyffrous iawn... Mae'n heintus!
2) Rwy'n hoffi byd natur. Dyma gyfle i mi fyw ger y traeth gyda mynyddoedd ar y cyffiniau? Yn bendant! Pam lai?
3) Roedd adolygiadau gan fyfyrwyr yn hynod gadarnhaol. Mae llawer o aelodau o'm teulu a'm ffrindiau'n gweithio yn y DU yn y diwydiant addysg a gwnaethant argymell Prifysgol Abertawe'n gryf.

Sut oedd y bywyd cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe yn dy farn di?
Rwy'n aelod o'r Gymdeithas Economeg, yr Undeb Cristnogol, y Gymdeithas Roboteg a'r Rhwydwaith Bydi. Mae'r cymdeithasau amrywiol yn cynnwys gweithgareddau cymdeithasol o leiaf unwaith bob wythnos. Gyda'i gilydd, mae'r gweithgareddau cymdeithasol yn gyfuniad o bartïon, bowlio, gweithgareddau academaidd, cystadlaethau, astudio'r Beibl a llawer o weithgareddau difyr eraill. Byddwn i'n argymell ymuno â chymdeithas oherwydd eu bod yn rhoi ymdeimlad o berthyn a chymuned i chi. Maent yn eich helpu i wneud ffrindiau ac ennill llawer o wybodaeth. Gallwch chi wneud yr hyn rydych chi'n caru ei wneud a'i fwynhau gyda phobl sydd o'r un meddylfryd â chi. Mae'n deimlad hyfryd. Mae llawer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn ar y ddau gampws megis Gŵyl y Darlun Mwy, Nadolig Rhyngwladol, Dychmyga dy Gartref mewn Bwmerang a digwyddiadau undeb y myfyrwyr.

Sut oedd dy brofiad o addasu i'r gwahaniaethau rhwng dy wlad gartref a'r DU?
Mae'r profiad wedi bod yn ddidrafferth hyd yn hyn. Des i o ddinas fywiog a byrlymus iawn. Fodd bynnag, mae Abertawe'n hollol wahanol. Roedd hon yn fantais yn fy marn i. O ran y bwyd, mae siopau rhyngwladol yn Abertawe, felly roedd hi'n bosib i mi gael rhai prydau bwyd cartref o hyd. Roedd gwahaniaeth mawr yn yr amodau tywydd yn bendant, ond gwnes i addasu a dysgu sut i hoffi tywydd y DU a'i anghysondebau.

Pa fath o gymorth rwyt ti wedi'i gael gan y Brifysgol fel myfyriwr rhyngwladol?
Rwyf wedi defnyddio gwasanaethau cyflogadwyedd Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol i adolygu fy CV a'm llythyr eglurhaol, paratoi ar gyfer cyfweliadau a'r ganolfan asesu. O! Mae'r unigolion hyn yn wych! Mae eu hamynedd, eu gwybodaeth fanwl, eu hymagwedd gyffredinol, eu proffesiynoldeb a phopeth amdanynt yn fendigedig. Rwyf bob amser yn cwblhau eu sesiynau gan deimlo'n llawn ysbrydoliaeth a hyder.

Sut byddi di'n disgrifio dy brofiad o fyw yn Abertawe?Beth wyt ti'n ei hoffi fwyaf am y ddinas?
Y peth gorau am fyw yn Abertawe, ac mae'n debygol mai dyma'r ymateb mwyaf cyffredin, yw'r golygfeydd ysblennydd a deniadol. Mae Abertawe'n hardd! Hefyd, mae llawer o bobl hyfryd yn Abertawe a fydd yn gwneud popeth y gallant i'ch helpu. Os byddwch chi'n mynd ar goll neu'n methu ymdopi â sefyllfa, gofynnwch i rywun agos am gymorth ac mae'n debygol y bydd yn eich helpu chi.

Pa gyngor byddi di'n ei roi i fyfyrwyr eraill sy'n ystyried astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Dylech chi feddwl yn agored, ymuno â chymdeithasau a chofiwch er mai'r gwaith academaidd yw eich prif amcan, dylech chi gael hwyl hefyd. Byddwch chi yn y Brifysgol am gyfnod eithaf byr. Dylech chi wneud ffrindiau, siarad â llawer o bobl a meithrin perthnasoedd. Does dim gwybod pwy allai eich helpu chi ryw ddiwrnod.

Oes unrhyw beth hoffet ti fod wedi ei wybod cyn i ti ddod i Abertawe ac a fyddai wedi dy helpu?
Peidiwch â defnyddio ymbaréls, dylech chi wisgo hwdis a siacedi yn hytrach oherwydd bod hi'n wyntog iawn yn Abertawe. Ymunwch â chymdeithasau yn yr wythnosau cyntaf. Mae eich darlithwyr yn gyfeillgar, dylech chi siarad â nhw.