Katie Canning

Katie Canning

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Cemeg

Mae Katie yn fyfyriwr BSc Cemeg o Gymru sy'n dwlu ar olygfeydd hardd o'r môr yn Abertawe, y marina bywiog, a digwyddiadau cyffrous fel Sioe Awyr Cymru. Dewisodd Katie Abertawe am ei chydbwysedd perffaith o annibyniaeth ac agosrwydd at adref ac mae'n mwynhau'r cwrs Cemeg bach, cefnogol. Darllenwch stori Katie i ddysgu mwy am fywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe!

Pam Abertawe?
Rydw i wrth fy modd ei bod hi'n agos at y môr ac yn cynnig golygfeydd hardd, yn enwedig ar fachlud haul. Mae cerdded ar lan y môr yn ffordd wych o ymlacio ar ôl diwrnod anodd. Yn y marina mae bwytai hyfryd, adeiladau lliwgar, a phensaernïaeth anhygoel, sy'n creu awyrgylch heddychlon. Hefyd rwy'n mwynhau'r digwyddiadau a gynhelir gan Gyngor Abertawe, fel Sioe Awyr Cymru, sy'n hwyl, yn drefnus ac yn cynnwys amrywiaeth o stondinau diddorol.

Pam dewisaist ti astudio dy radd yn Abertawe?
Mae pellter Abertawe o gartref yn berffaith — yn ddigon agos er cysur ond yn ddigon pell er annibyniaeth. Roeddwn i eisiau aros yng Nghymru, ac roedd Abertawe yn un o'r ychydig brifysgolion a oedd yn cynnig gradd Cemeg bur.

Beth yw dy hoff beth am dy gwrs?
Mae'n gwrs cymharol fach, felly rwy'n adnabod fy holl ddarlithwyr a’m cyd-fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai mewn blynyddoedd eraill, sy'n gysur. Mae'r cynefindra hwn yn ei gwneud hi'n hawdd gofyn am help pan fo angen.

Wyt ti'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Rwy'n rhan o'r Gymdeithas Gemeg, sy'n cydweithio'n agos â'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol (RSC) ac yn cynnal digwyddiadau fel Top of the Bench i hyrwyddo dysgu. Mae'r gymdeithas hefyd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasu hwyl, fel nosweithiau cwis a gemau.

Wyt ti wedi byw mewn preswylfeydd yn ystod dy astudiaethau?
Roeddwn i'n byw mewn preswylfa yn ystod fy mlwyddyn gyntaf ac roedd yn brofiad gwych. Gwnes i lawer o ffrindiau, dysgu llawer a mwynhau nosweithiau gemau a ddaeth â ni'n agosach at ein gilydd, gan wneud bywyd prifysgol yn llai unig.

Wyt ti'n gallu siarad Cymraeg? Wyt ti wedi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg?
Rwy'n siarad Cymraeg ond dydw i ddim yn astudio yn Gymraeg. Fodd bynnag, rwy'n defnyddio'r Gymraeg yn ystod digwyddiadau allgymorth gydag ysgolion Cymraeg, gan esbonio arbrofion yn Gymraeg. Mae'n ffordd wych o gynnal yr iaith mewn maes lle mai Saesneg yw'r iaith bennaf.