Katie Farmer

Katie Farmer

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg

Pam Abertawe?
Roedd Prifysgol Abertawe'n hynod gefnogol yn ystod y broses glirio, gan ateb fy holl bryderon a chwestiynau, yn enwedig gan fy mod yn trosglwyddo o brifysgol arall. Cefais fy nenu at y lleoliad hardd a chyfleusterau modern Campws y Bae. Yn bwysicaf oll, roedd ymdrechion y staff i ddod i fy adnabod fel myfyriwr, yn hytrach na rhif, wedi creu argraff sylweddol arnaf. Mae'r cysylltiadau rydw i wedi’u creu â chyd-fyfyrwyr a staff wedi rhoi hwb i’m hyder ac ehangu fy safbwyntiau gyrfa. Rydw i hefyd yn caru'r ymdeimlad o gymuned yn Abertawe, y nifer o siopau coffi annibynnol a mannau siopa unigryw.

Wnaethoch chi gyflwyno cais drwy Glirio?
Do, fel y nodais, roedd Abertawe'n ddewis ardderchog ar gyfer clirio. Er bod fy nghwrs yn llai o'i gymharu â chyrsiau peirianneg eraill, roedd y brifysgol yn ymroddedig i ateb galwadau ac e-byst yn brydlon. Roedden nhw'n llawer o help yn ystod fy mhroses drosglwyddo, gan hyd yn oed cynnig cyngor ar gyllid myfyrwyr, a oedd wedi gwneud y trosglwyddiad yn hawdd ac wedi tawelu fy meddwl fy mod i wedi gwneud y penderfyniad cywir.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Ydw, ymunais i â'r gymdeithas ddawns yn fy ail flwyddyn. Roedd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd. Er fy mod i wedi dawnsio pan oeddwn i’n ifanc, roedd yr amgylchedd cynhwysol wedi fy ngalluogi i archwilio arddulliau gwahanol heb unrhyw brofiad blaenorol.

Ydych chi wedi byw mewn preswylfa yn ystod eich astudiaethau?
Rydw i'n argymell byw mewn neuadd breswyl, yn enwedig yn eich blwyddyn gyntaf. Mae'r neuaddau preswyl wedi'u dylunio i fod yn fannau cymdeithasol, gyda chyd-breswylwyr ychydig fetrau i ffwrdd a fflatiau eraill gerllaw. Mae'n lle perffaith i gwrdd â phobl newydd a chamu y tu hwnt i’ch parth cyfforddus wrth barhau i gael preifatrwydd yn eich ystafell eich hun. Mae byw'n gymunol yn helpu i feithrin cymeriad, annibyniaeth a sgiliau cymdeithasol.

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?
Ydw, gweithiais fel gweithiwr bar ar Stryd y Gwynt yn ystod fy mlwyddyn gyntaf a'm hail flwyddyn. Roedd cydbwyso gwaith, astudiaethau a bywyd cymdeithasol yn brofiad dysgu da. Er yn y diwedd roedd yn rhaid i mi adael y swydd oherwydd bod yr oriau hwyr yn gwrthdaro â darlithoedd cynnar, roedd yn help i mi gysylltu â'r gymuned leol y tu hwnt i'r brifysgol.

Ydych chi wedi cael cymorth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe?
Ydw, rydw i wedi defnyddio'r gwasanaeth cwnsela, osteopatheg a meddyg teulu yn Abertawe. Roedd yr holl wasanaethau'n ardderchog, gyda'r meddyg teulu yn cynnig profiad tebyg i gartref. Roedd y gwasanaethau cwnsela ac osteopatheg yn hawdd mynd atynt, ac roedd y staff wedi mynd gam ymhellach i sicrhau fy mod yn cael fy nghlywed ac yn gyfforddus, a oedd yn bwysig iawn yng nghyd-destun cwnsela.