Leigh Phillips

Leigh Phillips

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
Cemeg MChem

Dewisodd Leigh, sy'n fyfyriwr MChem Cemeg o'r DU, Brifysgol Abertawe am ei hadran gynnes a chroesawgar. Mae Leigh yn dwlu ar draethau hardd Abertawe, bwrlwm canol y dref a'r mannau gwyrdd llonydd. Mae'r darlithwyr cymwynasgar a'r ymdeimlad cryf o gymuned yn yr adran Gemeg wedi gwneud profiad Leigh hyd yn oed yn fwy dymunol. Ydych chi'n chwilfrydig am fywyd myfyrwyr yn Abertawe? Dysgwch fwy am daith Leigh a pham y gallai Abertawe fod yn lle perffaith i chi!

Pam Abertawe?
Dewisais i Abertawe oherwydd natur gynnes a chroesawgar yr adran. Mae'r cwrs yn cynnig digon o amser yn y labordy, cyfleoedd i ddefnyddio'r offerynnau mae rhywun yn dysgu amdanyn nhw ar Safon Uwch a llawer o gyfleoedd i greu budd i'r gymuned wyddonol leol drwy ymdrechion allgymorth.

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?
Rwy'n dwlu ar y ffaith ei bod mor agos at y traeth; mae ymdrochi yn y môr yn ffordd wych o ymlacio ar ôl darlithoedd a gwaith yn y labordy. Mae digon o leoedd bwyta yng nghanol y dref, mae rhywbeth at ddant pawb. Ac fel rhywun sy'n dod o ardal wledig, rwy'n gwerthfawrogi'r mannau gwyrdd niferus sy'n berffaith i ddarllen a dysgu'n dawel.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Mae'r darlithwyr yn yr Adran Gemeg yn gymwynasgar iawn. Gan fod y niferoedd ar y cwrs yn gymharol fach, mae'n hawdd meithrin perthnasoedd gweithio cadarnhaol â'r staff, sydd wir yn rhoi eich buddion gorau'n gyntaf. Rydyn ni hefyd yn cael ein hannog i rwydweithio â chemegwyr o flynyddoedd eraill, sy'n cynnig arweiniad a chymorth gwerthfawr pan fyddwch chi newydd ddechrau yn y brifysgol.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Hoffwn i astudio am PhD mewn cemeg fio-anorganig a dod yn ymchwilydd, naill ai ym myd diwydiant neu yn y gymuned academaidd.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?
Byddwn i'n argymell Abertawe am ei lleoliad gwych. Rwy'n argymell yn gryf fod unrhyw un sy'n ystyried gradd mewn cemeg yn dod i un o'n diwrnodau agored ac yn cael cipolwg ar yr adran wych â'ch llygaid eich hun.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Yn y flwyddyn ddiwethaf, roeddwn i'n Llywydd y Gymdeithas Gemeg. Mae rhedeg cymdeithas yn her fawr ond mae'n talu ar ei ganfed. Enillon ni wobr Ymgyrch y Flwyddyn am ein menter Clybiau Cemeg, sy'n ymweld ag ysgolion difreintiedig i gynnal arddangosiadau labordy rhyngweithiol. Gwnaethon ni hefyd sicrhau grantiau a threfnu digwyddiadau cymdeithasol amrywiol, a ches i gyfle i ymweld â'r Unol Daleithiau ddwywaith, a oedd yn brofiad anhygoel.

Ydych chi wedi byw mewn preswylfa yn ystod eich astudiaethau?
Roeddwn i'n byw mewn preswylfa ar Gampws Singleton yn ystod fy mlwyddyn gyntaf. Mae cael eich lle eich hun yn rhywbeth byddwn i'n ei argymell i fyfyrwyr newydd, am ei fod yn rhoi cyfle i chi fod yn annibynnol wrth fod yng nghanol cyfoedion sydd yn yr un sefyllfa.

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?
Rwy'n gweithio'n rhan-amser fel rhan o'r Criw Digwyddiadau yn Undeb y Myfyrwyr. Rydyn ni'n gyfrifol am osod, rheoli a dadosod llwyfannau ar gyfer digwyddiadau fel Dawns yr Haf, y cynlluniau ar gyfer Varsity a'r stondinau yn Ffair y Glas. Mae'n waith ymarferol, ond mae gweld y canlyniadau’n rhoi ymdeimlad o falchder. Dwi hefyd yn mwynhau gweithio gyda thechnoleg sain a goleuo pryd bynnag y gallaf, a dyna fy hoff ran o'r swydd.