Leonie Dindji

Leonie Dindji

Gwlad:
Ghana
Cwrs:
MA Astudiaethau Plentyndod

Pam gwnaethoch chi ddewis astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Mae fy newis i astudio ym Mhrifysgol Abertawe'n gyfle unigryw i mi fireinio fy arbenigedd mewn astudiaethau plentyndod gan fy mod i'n frwd am blant a gwaith cymdeithasol. Mae'r cwrs yn cynnig gwybodaeth am blant a'r amgylchedd micro a macro y maen nhw'n byw ynddo. Bydd hynny'n rhoi trosolwg i mi o’r cyfnodau gwahanol yn ystod plentyndod cyn iddyn nhw ddod yn oedolion, er mwyn gwella eu datblygiad a gwneud dinasyddion da a gweithredwyr newid maes o law.
Ac eithrio'r cwricwlwm cyffrous mae fy nghwrs yn ei gynnig, roeddwn i am astudio mewn lle braf lle mae'r rhaglen addysgu'n dda. Ac mae gan Abertawe gyfradd bwysig o fyfyrwyr rhyngwladol, y traeth sy'n gwneud i mi deimlo'n gartrefol, a safle ardderchog yn ôl tablau prifysgolion The Guardian.

Allwch chi roi gwybod i ni am eich cwrs a'r hyn rydych chi'n ei fwynhau fwyaf?
Rwy'n astudio am radd Meistr mewn astudiaethau plentyndod, ac rwy'n mwynhau'r cwrs yn benodol oherwydd ei ryngweithiadau, yn enwedig am groestoriadedd: hil, rhywedd a dosbarth. Rwy'n cefnogi hawliau plant ac os oes gan bob plentyn yr hawl yn ôl Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn 1989, mae'n ffaith bod gan bob gwlad ei chyd-destun a'i gweithrediad y mae'n rhaid i ni eu hystyried wrth hyrwyddo'r hawliau hyn. Ac yn ystod y dosbarth, fel myfyrwyr, rydyn ni'n cael y cyfle i grybwyll a thrafod ein cefndir a'n credoau. Rwy'n gwerthfawrogi'n benodol y darlithoedd ar blant ag anableddau gan eu bod nhw'n cynnig amrywiaeth eang o wybodaeth i ddadansoddi credoau pobl am blant ag anableddau, yn enwedig am blant awtistig yn fy ngwlad. Mewn ychydig o eiriau, galla i ddweud bod y cwrs yn hyrwyddo cynhwysiant. Hefyd, mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio'n dda. Cyn dod, roedd enw'r cwrs yn destun rhywfaint o bryder i mi, ond rwy'n ei ddeall bellach. Mae'n cynnig yr holl sgiliau angenrheidiol i helpu plant a gwella eu datblygiad ym mhob cyd-destun. Gwnes i hyd yn oed astudio seicoleg pan oeddwn i'n meddwl bod angen i mi ddilyn gyrfa arall er mwyn deall seicoleg rhywun. Mae'n eithaf diddorol. Heddiw, does dim ofn arna i weithio dros blant gan fy mod i wedi cael fy ngrymuso. Rwy’n gwireddu fy mreuddwyd o feithrin gyrfa yn y maes.

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe?
Gan ddod o ddeheubarth y Traeth Ifori, rwy'n byw mewn ardal lle galla i fynd i'r traeth a mwynhau darllen neu fachlud yr haul. Ac mae byw ger y traeth yma yn Abertawe'n gwneud i mi deimlo'n gartrefol.

Yn ail, rwy'n dwlu ar y llyfrgell y mae'r brifysgol yn ei chynnig gan fy mod i'n dod o wlad lle nad oes rhywbeth tebyg. Galla i ddarllen llawer, dod o hyd i'r llyfrau rwy'n chwilio amdanyn nhw a gweld bod fy ysgrifennu'n gwella.

Yn drydydd, mae tîm pêl-droed Abertawe'n adnabyddus yn fy ngwlad. Bydd y rhai hynny sy'n adnabod y ddinas yn dweud eu bod nhw'n ymwybodol o'r tîm pêl-droed gan fod rhai pobl o'r Traeth Ifori wedi chwarae yma. Heddiw, rwyf wedi penderfynu hyrwyddo Abertawe a'r brifysgol ar fy holl gyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwyf am i bobl feddwl am y brifysgol hefyd wrth sôn am y ddinas.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill?
Heb oedi, byddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill, am ansawdd ei gweithgareddau addysgu a'r cyfleoedd gyrfa y gallan nhw adeiladu arnyn nhw ar ôl eu gradd. Mae Abertawe'n lle ardderchog lle mae unrhyw un yn canfod ei ffordd a'r hyn sy'n mynd â'i fryd ef.