Nabil Djeghab

Nabil Djeghab

Gwlad:
Algeria
Cwrs:
MSc Rheoli (Dadansoddeg Fusnes)

Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe? 
Dewisais Brifysgol Abertawe am sawl rheswm. Yn gyntaf, cafodd Prifysgol Abertawe ei hargymell i mi gan ffrind agos oedd yn gwybod yn union beth oedd fy niddordebau a'm huchelgeisiau. Yn ail, roedd y cwrs yn cyd-fynd yn union â beth yr oeddwn yn chwilio amdano o ran cynnwys ac ansawdd. Ac yn olaf, roeddwn yn ymwybodol bod dinas Abertawe yn lle perffaith i fyfyrwyr gan ei bod yn fforddiadwy ac mae digon i’w wneud i fwynhau eich amser rhydd.

Dywed wrthym am dy gwrs a'r hyn rwyt ti'n ei fwynhau fwyaf? 
Rwy'n astudio MSc Rheoli (Dadansoddeg Fusnes) sy'n gwrs sy'n cyfuno rheoli a TG. Fel rhywun sydd â chefndir mewn peirianneg ac wedi gweithio ym myd rheoli a TG, mae'r cwrs hwn yn hwb i fy ngyrfa gan ddarparu'r sgiliau a’r technegau cywir i mi ar gyfer y farchnad swyddi bresennol. Y peth a fwynheais fwyaf oedd y cyfleoedd diddiwedd i rwydweithio, un ai â fy nghyd-fyfyrwyr neu â chyflogwyr oedd yn cael eu gwahodd i'r Ysgol Reolaeth yn rheolaidd i'n helpu ar ein taith.

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe? 
1. Y gymuned. Mae Abertawe'n amrywiol iawn ac mae yma gymuned Fwslimaidd fywiog iawn sy'n gwneud i chi deimlo'n gartrefol.
2. Y traeth. Mae'r enw'n esbonio'i hun.
3. Bywyd myfyriwr. Mae'r ddinas yn heddychlon, yn fywiog, ac yn fforddiadwy.

Fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill? 
Byddwn i bendant yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol fel fi.