Nouran Aly

Nouran Aly

Gwlad:
Qatar a'r Aifft
Cwrs:
BSc Cyfrifiadureg

Pam gwnaethoch chi ddewis astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Dewisais i Brifysgol Abertawe oherwydd pan es i i ffair prifysgolion y DU yn Qatar, siaradais i â llawer o brifysgolion ond roeddwn i'n teimlo mai cynrychiolwyr Abertawe oedd y rhai mwyaf cysurlon, calonogol a chyfeillgar yn y ffair. Gwnaethon nhw greu argraff dda arna i ac roeddwn i am barhau i ymchwilio i'r brifysgol ar ôl y ffair. Ac ar ôl gwneud llawer o waith ymchwil, yn ogystal â chael cip ar gyfryngau cymdeithasol y brifysgol, roeddwn i'n teimlo awyrgylch cysurlon cyffredinol a chysylltiad â'r brifysgol. Gan fod gadael fy nghartref a mynd dramor i wlad newydd nad oeddwn i wedi ymweld â hi o'r blaen yn peri pryder mawr i mi, roeddwn i'n teimlo mai Abertawe oedd y dewis perffaith.

Allwch chi roi gwybod i ni am eich cwrs a'r hyn rydych chi'n ei fwynhau fwyaf?
Yr hyn sydd wedi creu argraff arnaf yw oriau swyddfa'r darlithwyr, lle mae modd i chi fynd i siarad â nhw am unrhyw beth, nid pethau sy'n ymwneud â darlithoedd o reidrwydd, ond gall unrhyw fyfyriwr archwilio ei uchelgeisiau drwy'r oriau swyddfa hyn oherwydd bod gan y staff yn y Ffowndri Gyfrifiadol amrywiaeth eang o arbenigedd a gwybodaeth. Mae'r ffaith bod mentoriaid bob amser yn gofalu amdanoch chi'n tawelu'r meddwl hefyd, ac maen nhw'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n dod i siarad â nhw os oes problem gennych chi. Yn olaf, ar sail fy mhrofiad personol, mae'r ffaith bod adeilad cyfan ar gyfer myfyrwyr cyfrifiadureg, meddalwedd a mathemateg yn unig yn anhygoel. Pryd bynnag rwy'n mynd i mewn i'r adeilad hwnnw, rwy'n teimlo fy mod i'n perthyn ac yn hyderus, ac mae bod yng nghwmni pobl sy'n rhannu'r un brwdfrydedd ac uchelgais yn ysgogol ac yn bendant yn eich helpu i roi eich cynnig gorau ar bopeth rydych chi'n ei wneud.

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe?
1. Y traeth yw fy hoff beth am Abertawe ac mae'r ffaith ein bod ni'n astudio o fewn munudau i'r traeth yn bendant yn un o gryfderau Abertawe.
2. Mae'r gymuned yn gyfeillgar, a go brin y ceir unrhyw hiliaeth o gwbl. Mae pobl yn Abertawe'n eithaf goddefgar, ac yn sgîl hynny mae'n llawer llai bygythiol i fyfyriwr rhyngwladol yn y DU sydd yn bendant â golwg estron arno.
3. Mae canol y ddinas yn ardal wych. Mae'n fywiog iawn ac yn llawn pethau i'w gwneud, ac o ran siopa am fwyd, does dim problem os nad oes gennych chi gar, sy'n gyffredin iawn i fyfyrwyr rhyngwladol yn benodol, oherwydd bod popeth sydd ei angen arnoch chi a mwy mewn un ardal. Yn bendant, does dim angen i chi deithio o gwmpas ar sawl bws i ddiwallu eich anghenion wythnosol.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill?
Byddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe i unrhyw un sydd am ddod i brifysgol yn y DU oherwydd bod y brifysgol yn rhoi cryn sylw i les myfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr rhyngwladol gan fod dealltwriaeth ei bod hi'n anodd iawn bod mewn amgylchedd anghyfarwydd a bod oddi cartref, a welwyd yn ystod y pandemig yn benodol. Mae'r Brifysgol hefyd yn rhoi llawer o gymorth ac adnoddau i alluogi pob myfyriwr i ragori.