Yunus Asfari

Yunus Asfari

Gwlad:
Syria
Cwrs:
LLM Hawliau Dynol

Pam dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Y peth cyntaf i mi ei ystyried wrth gyflwyno cais i Brifysgol Abertawe oedd y cwrs, y modiwlau oedd yn cael eu haddysgu a safle'r Brifysgol o'i chymharu â phrifysgolion eraill. Mae fy nghwrs yn Abertawe yn cyd-fynd â'm diddordebau, mae'n gallu cyfrannu at fy ngyrfa yn y dyfodol a fy helpu i wella fy sgiliau. Hefyd, fe wnes i gymharu sgorau prifysgolion wrth gyflwyno ceisiadau. Roedd Prifysgol Abertawe yn safle 31 ymysg prifysgolion y Deyrnas Unedig yn ôl The Guardian ac roedd ansawdd ei chyrsiau yn y gyfraith gyda'r rhai gorau yn y Deyrnas Unedig. Yn olaf, penderfynais i ymuno ag Abertawe oherwydd ei lleoliad yng nghanol dinas ar arfordir de Cymru. Roeddwn i am ddianc rhag bwrlwm dinasoedd mawr a mwynhau harddwch byd natur yn y Deyrnas Unedig.

Allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich cwrs a'r hyn rydych chi'n ei fwynhau fwyaf?
Mae'r cwrs LLM mewn Hawliau Dynol ym Mhrifysgol Abertawe'n canolbwyntio ar yr heriau mwyaf sy'n wynebu cymdeithas heddiw, gan gynnwys gwyliadwriaeth ddigidol, diogelu'r amgylchedd, terfysgaeth a materion lloches a mudo. Mae'r cwrs yn gynhwysfawr, mae'n trafod yn fanwl heriau i hawliau dynol ledled y byd ac ymatebion posib drwy ddeddfwriaeth, polisi ac ymarfer. Rwy'n mwynhau sut mae'r cwrs yn ymdrin â materion hawliau dynol cyfoes a'r drafodaeth ddiddorol mewn darlithoedd â myfyrwyr rhyngwladol eraill o gefndiroedd gwahanol.

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe?
Dinas fach yw Abertawe ond mae ganddi ei swyn arbennig. Mae'n ddinas arfordirol yn ne Cymru ac mae ganddi leoedd bendigedig i'w darganfod bob dydd. Rwy’n hoffi beicio i'r Mwmbwls i fwynhau machlud yr haul yno. Rwy'n dwlu ar dreulio amser gyda'r hwyr gyda fy ffrindiau ar Stryd y Gwynt, yn profi tafarndai a bwytai newydd sy'n cynnig gwahanol fathau o fwyd. Rwy' wrth fy modd yn siopa yn y siopau ethnig ar Heol San Helen lle gallaf brynu'r holl gynhwysion i goginio fy hoff brydau bwyd traddodiadol o gartref.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill?
Os ydych chi'n chwilio am addysg o safon yn un o brifysgolion gorau'r Deyrnas Unedig, os ydych chi'n mwynhau gweithgareddau awyr agored a theithiau cerdded hir drwy dirwedd hyfryd, ac os hoffech chi fyw mewn dinas amlddiwylliannol, yn bendant byddwn i’n argymell eich bod yn ymuno â Phrifysgol Abertawe.