Delwedd o glawr blaen y llyfr ochr yn ochr â menyw yn gwisgo dillad academaidd

Gall dechrau yn y brifysgol fod yn brofiad brawychus i unrhyw fyfyriwr, yn enwedig os yw'n cynnwys symud oddi cartref am y tro cyntaf. Nawr, mae llyfr newydd yn ceisio gwneud bywyd ychydig yn haws i bobl ifanc awtistig wrth iddynt ddechrau eu hantur academaidd.

Yn University: The Autistic Guide, mae Dr Harriet Axbey Brifysgol Abertawe yn trafod popeth o gyflwyno cais, pacio a gweinyddiaeth ariannol i gymorth iechyd meddwl, ymdrin â blinder llwyr a hyd yn oed ryseitiau syml. 

Mae’n dweud bod y llyfr, sydd â’r is-deitl Everything You Need to Survive and Thrive, wedi cael ei ysgrifennu i fod yn ganllaw defnyddiol, cyfeillgar a llawn gwybodaeth ar gyfer bywyd ym maes addysg uwch i fyfyrwyr, rhieni, gofalwyr ac addysgwyr. 

Dywedodd Dr Axbey, sy'n gynorthwy-ydd ymchwil ar y prosiect Autism from Menstruation to Menopause yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd: "Fel person awtistig fy hun, roedd pontio i'r brifysgol yn gyffrous ond yn frawychus a byddai llyfr fel hwn wedi bod yn ddefnyddiol i mi. Bellach, rwy'n meddu ar naw mlynedd o raddau prifysgol a theimlaf fod modd i mi gynnig cyngor i bobl eraill, fel myfyriwr, gofalwr ac addysgwr! 

"Roeddwn yn llywydd ystafell gyffredin ôl-raddedig ym Mhrifysgol Durham ac, yn aml, byddwn i’n rhoi help llaw yn ystod wythnos Ffair y Glas. Profais yr hyn y byddai’n ddefnyddiol ei wybod cyn dechrau yn y brifysgol - pethau fel peidio â rhoi byrddau torri plastig yn y ffwrn a pheidio â rhoi metel yn y microdon - yn ogystal â sut brofiad yw bod yn rhiant neu'n ofalwr wrth ffarwelio â nhw am y tro cyntaf!” 

Er bod y llyfr, yn bennaf, ar gyfer pobl awtistig rhwng 15 ac 18 oed sy'n bwriadu mynd i'r brifysgol, mae hefyd yn trafod myfyrwyr hŷn ac mae penodau ar gyfer rhieni/gofalwyr ac addysgwyr hefyd. I baratoi, holodd Dr Axbey bron 100 o brifysgolion am y ddarpariaeth sydd ar gael i fyfyrwyr awtistig ar hyn o bryd. 

Mae rhai o'r darnau allweddol o gyngor mae'n eu hawgrymu yn cynnwys:

  • Gofyn a fydd eich dewis brifysgol yn caniatáu i chi symud i mewn ychydig o ddyddiau'n gynnar er mwyn rhoi cyfle i chi ymgartrefu'n raddol.
  • Paratoi eich hun ar gyfer y brifysgol yn gorfforol ac yn feddyliol, megis cael brechiadau ac addysgu eich hun o ran cydsyniad;
  • Gall rhieni helpu drwy addysgu eu pobl ifanc am bethau megis coginio a pherthnasau iach; a
  • Mynd â darpar fyfyrwyr ar ymweliadau â phrifysgolion yn gynnar yn ystod eu hamser yn y chweched dosbarth.

Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys ryseitiau a rhestrau gwirio defnyddiol ar gyfer yr hyn i'w bacio, arwyddion gorflino a, hyd yn oed, symptomau llid yr ymennydd i gadw llygad amdanynt. 

Cyhoeddir University: The Autistic Guid Everything You Need to Survive and Thrive gan Pavilion Publishing a Media Ltd ac mae ar gael i'w archebu nawr. 

Darllenwch fwy am ymchwil i awtistiaeth ym Mhrifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori