- Rhif y Swydd
- SU00531
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £25,138 i £27,979 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 22 Medi 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 4 Hyd 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Emma Westwood e.westwood@swansea.ac.uk
- Jayne Walters e.j.walters@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd y Gweinyddwr Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd yn gweithio o fewn Tîm Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Gyfadran mewn partneriaeth â staff academaidd, i ddarparu’r lefelau uchaf o ragoriaeth mewn cefnogeth proffesiynol yn y swyddogaethau canlynol:
- Sicrhau a Gwella Ansawdd – dull sy'n canolbwyntio ar welliannau i sicrhau rheoliadau academaidd a safonau ansawdd ar gyfer holl raglenni, gweithgareddau a phrosesau ar draws y Gyfadran. Gan gynnwys rheoli prosesau a chymeradwyaeth/adolygiadau ar gyfer yr holl gyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol (PSRB’s) sy'n gysylltiedig â'r Gyfadran.
- Datblygu Rhaglen – mewn partneriaeth â deiliaid diddordeb allweddol, cefnogi’r broses o ddatblygu, gwella ac adolygu’r holl raglenni a’r gweithredu sy’n gysylltiedig.
- Cynllunio Academaidd – cyfrifoldeb am baratoi a chynllunio yn unol â'r cylch academaidd a gofynion allanol i gwrdd â therfynau amser allweddol.
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn gweithio yn unol â holl reoliadau, deddfiadau, polisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol. Hefyd fframweithiau rheolaeth a chyfansoddiadol, gan geisio arweiniad gan ei reolwr llinell lle bo'n briodol.
Bydd y rôl hon yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd â phrofiad o weithio ym myd addysg o fewn maes Cynnwys y Cyhoedd a Chleifion neu sydd â sgiliau trosglwyddadwy clir.
Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn hynod drefnus, yn rhagweithiol, gyda llygad craff am fanylder. Gall weithio i derfynau amser tynn o dan bwysau, gan ragweld problemau sy’n gallu codi.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio'n agos gyda staff academaidd o raglen/ni astudio penodol, neu gefnogi swyddogaeth benodol o fewn y tîm ar draws y gyfadran, felly hanfodol yw’r gallu i ffurfio perthnasoedd gwaith effeithiol a chael dealltwriaeth o raglenni a rheoliadau academaidd.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.