VARSITY CYMRU DYCHWELYD

VARSITY CYMRU DYCHWELYD

Mae'r dyddiad ar gyfer Varsity Cymru 2023 rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe wedi cael ei gadarnhau.

Bydd Caerdydd cynnal yr ŵyl chwaraeon sy'n para am wythnos eleni. Cynhelir y rhan fwyaf o'r cystadlaethau a'r gemau rygbi proffil uchel ddydd Mercher 26 Ebrill.

Dechreuodd Varsity Cymru gyda gêm rygbi rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd ym 1997, ond mae wedi tyfu bob blwyddyn ers hynny a dyma'r digwyddiad aml-gamp mwyaf i fyfyrwyr yn y DU bellach.

Drwy gydol yr ŵyl chwaraeon wythnos o hyd, bydd myfyrwyr yn cystadlu mewn mwy na 30 o gampau gwahanol ar gyfer gwobr uchel ei bri Tarian Varsity Cymru. Mae'r campau'n cynnwys: ffrisbi eithafol; nofio; golff; cleddyfaeth; sboncen; paffio; pêl-fasged; a hoci.

Bydd twrnamaint 2023 yn cael ei gynnal mewn lleoliadau ledled y ddinas, gan gynnwys Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru a Pharc yr Arfau yng Nghaerdydd. Bydd Abertawe'n gobeithio ennill y darian eleni, ar ôl i Gaerdydd ei hadennill yn Abertawe y llynedd.

Meddai Jonathan Davies, Swyddog Chwaraeon yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: "Ar ôl dychweliad hir ddisgwyliedig Varsity y llynedd ac wrth i’r digwyddiad ddathlu 25 mlynedd, mae'r cyffro ar gyfer Varsity'n cynyddu. Eleni, rydym wedi bod yn ffodus i ychwanegu maes enwog Clwb Criced Morgannwg - Gerddi Soffia - at ein rhestr o leoliadau nodedig yn ogystal â dychwelyd i Barc yr Arfau am gemau rygbi drwy gydol y dydd.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb yn ein timau yn Undebau Myfyrwyr Caerdydd ac Abertawe a'n prifysgolion sydd wedi helpu i hwyluso cynllunio a chynnal y digwyddiad hwn. Gyda thros 800 o athletwyr yn cystadlu ar draws Caerdydd yn rhai o'r lleoliadau chwaraeon enwocaf yng Nghymru, mae'n amlwg pam mai hwn yw pinacl chwaraeon myfyrwyr Cymru.

Ar gyfer digwyddiad o'r fath, does gen i ddim amheuaeth y bydd y Fyddin Werdd a Gwyn yn dod â sŵn, awyrgylch a chefnogaeth i'n cystadleuwyr. Bydd y diwrnod arbennig hwn yn aros yn hir yn y cof a phan fyddwch yn edrych yn ôl ar eich amser yn Abertawe, boed yn gystadleuwr neu'n gefnogwr, bydd y diwrnod hwn yn atgof arbennig. Ewch â balchder Abertawe gyda chi a dewch â'r cwpan adref!"

Varsity Cymru yw'r ail ddigwyddiad Varsity mwyaf yn y DU, ar ôl digwyddiadau Rhydychen a Chaergrawnt. Gŵyl chwaraeon yw Varsity Cymru a chynhelir 48 o gemau calendr ar draws amrywiaeth o chwaraeon yn ystod y twrnamaint, wrth i'r cyfranogwyr gystadlu am Darian Varsity Cymru. 

Y nifer swyddogol a aeth i’r diwrnod o gampau yn 2022 oedd 8,000 o fyfyrwyr gyda miloedd yn gwylio gemau rygbi'r dynion a'r menywod yn Stadiwm Liberty, Abertawe. Yn Abertawe, cynhaliwyd y chwaraeon amrywiol ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe a daeth y digwyddiad i ben gyda gemau rygbi'r dynion a’r menywod yn cael eu cynnal yn Stadiwm Liberty.

Gŵyl chwaraeon yw Varsity Cymru a chynhelir 48 o gemau calendr ar draws amrywiaeth o chwaraeon yn ystod y twrnamaint, wrth i'r cyfranogwyr gystadlu am Darian Varsity Cymru. Pan ddaw'r digwyddiad i Abertawe, cynhelir y chwaraeon amrywiol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol y Prifysgolion ac uchafbwynt y digwyddiad fydd cynnal gemau rygbi timau'r dynion a'r menywod yn Stadiwm Liberty.

Cipolwg ar y gorffennol

Chwaraewyd Gêm Sefydlu Gêm Varsity Cymru ym 1997 ym mhrifddinas Cymru, yng nghartref Clwb Rygbi Caerdydd, sef Parc yr Arfau, Caerdydd. Chwaraeodd timau'r ddwy brif Brifysgol yng Nghymru yn y gêm, sef Caerdydd ac Abertawe, a mabwysiadwyd y model "Varsity" hynod lwyddiannus, gan roi'r holl elw i Oxfam.

Yn y blynyddoedd cynnar, chwaraewyd gêm Varsity Cymru bob yn ail flwyddyn ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd ac ym Mharc San Helen, sef cartref Clwb Rygbi Abertawe. Yn hanesyddol, mae Prifysgol Abertawe wedi magu enw da am berfformio yn nigwyddiadau Varsity Cymru a, hyd heddiw, mae ei thimau wedi ennill 13 o gemau Varsity.

Mae Prifysgol Abertawe wedi gallu dewis ystod eang o chwaraewyr hynod ddawnus yn gyson, megis y Cymry, Alun Wynn Jones, Ritchie Pugh a Dwayne Peel. Yn 2007, roedd gan Abertawe 11 o chwaraewyr rhyngwladol FIRA yn y tîm o oedrannau amrywiol, gan ennill y gêm ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd.

 

Rhannu'r stori