Y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol gynhaliodd Gystadleuaeth Ryngwladol Cymrodeddu Cyfraith Forwrol (IMLAM) 2024, ac eleni oedd yr ail flwyddyn yn olynol i'r Brifysgol gynnal y digwyddiad.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Abertawe, gydag 18 tîm o 10 gwlad yn cymryd rhan a daeth y digwyddiad i ben gyda rownd derfynol gyffrous yn Swyddfeydd HFW yn Llundain.

Yng nghanol dinas Llundain, gwnaeth dau dîm dadlau o Brifysgol Queensland a Phrifysgol Hong Kong gystadlu yn y rownd derfynol ger bron panel elît o feirniaid:

  • Mr Ustus Simon Picken (prif feirniad ar gyfer Materion Ewropeaidd a Chadeirydd Sefydliad Barnwyr yr Uchel Lys),
  • Ruth Hosking (Quadrant Chambers),
  • Mr Chris Garley (Partner, HFW),
  • Mr Bruce Harris (Cyn Lywydd yr LMAA), a
  • Mr Ian Gaunt (Bargyfreithiwr a’r LMAA).

Ar ôl awr o ddadlau o'r radd flaenaf, Prifysgol Queensland (Sinaima Gordon, Elijah Larsen, Heidi Willis ac Asha Varghese) a oedd yn fuddugol.

Roedd llawer o elfennau cadarnhaol i'r gystadleuaeth; Dyfarnwyd gwobr ‘Ysbryd y Ffug Lys Barn’ i’r tîm dadlau o Université de Versailles Paris-Saclay). Yn yr un modd, derbyniodd Anna Lasenko o Brifysgol Abertawe'r wobr am y 'Siaradwr Gorau' o Dîm o’r DU, a dyfarnwyd y wobr 'Memoranda Gorau' ar y cyd i dimau Prifysgol Sydney a Phrifysgol Singapore. SaraDolera (Universitas Carlos III de Madrid) oedd enillydd y wobr eiriolwr benywaidd gorau, a noddir gan WISTA UK, a Loong Tin Yiu (Prifysgol Hong Kong) oedd enillydd y wobr eiriolwr benywaidd gorau, a noddir gan WISTA UK unwaith yn rhagor. Yn y 47 dadl ffug lys barn a gynhaliwyd dros y penwythnos, cafwyd perfformiad nodedig gan Brifysgol Copenhagen a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol ar eu ymgais gyntaf yn y gystadleuaeth.

Mae pawb yn yr IISTL yn llongyfarch y timau dadlau ardderchog a gyrhaeddodd y rowndiau dileu ar ôl rhagbrofion tynn: Prifysgol Sydney, Prifysgol Rheolaeth Singapore, Prifysgol Copenhagen, Ysgol Genedlaethol y Gyfraith India, Prifysgol Genedlaethol Singapore, Universitas Indonesia, Prifysgol Symbiosis, Prifysgol Murdoch, Prifysgol Abertawe ac Universitas Carlos III de Madrid.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, meddai'r Athro Barış Soyer, (Cyfarwyddwr yr IISTL):

"Ar ran yr IISTL, hoffem ddiolch i'r holl feirniaid o ymarfer cyfreithiol, y byd academaidd a'r byd diogelu ac indemnio, a roddodd eu hamser i gyfrannu at ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr morwrol! Ac wrth gwrs, unwaith eto rhaid talu teyrnged i'n holl gefnogwyr: HFW (am y nawdd hael), Grŵp Rhyngwladol Clybiau Diogelu ac Indemnio, WISTA UK, ein partner gwybodaeth iLaw, a'n partner technoleg Thomson Reuters.

Roedd y digwyddiad yn achlysur gwych a ddaeth ag 18 tîm i Abertawe, a chafwyd amgylchedd gwych i ddatblygu sgiliau eirioli'r rhai hynny a gymerodd ran a chyfleoedd rhwydweithio gydag ymarferwyr morwrol.  Rydym hefyd yn ddiolchgar i Matthew Parry a drefnodd y gystadleuaeth."

Rhannu'r stori