Alex Pearson

Alex Pearson

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Cemeg

Pam Abertawe:
Des i i Abertawe am y tro cyntaf yn 2016 i astudio am radd ffiseg. Ar ôl graddio a threulio amser ar gwrs Meistr ym Mhrifysgol Durham, penderfynais i newid pwnc a gwneud gradd Cemeg yn Abertawe.

Pam dewisais i Gemeg:
Dwi wedi bod yn frwdfrydig iawn am wyddoniaeth ers yr ysgol gynradd ac roedd gen i ddiddordeb mawr mewn Cemeg erioed. Mae'r rhaglen Cemeg yn Abertawe'n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau diddorol o ganghennau amrywiol, gan sicrhau bod rhywbeth newydd i'w ddysgu drwy'r amser. Er bod gwaith labordy yn heriol, dwi'n ei fwynhau ac mae'n cynnig cyfle gwych i roi'r damcaniaethau rydyn ni'n eu dysgu ar waith yn ymarferol. Mae'r staff addysgu'n gyfeillgar, yn frwdfrydig ac maen nhw bob amser yn barod i helpu.

Hoff Agweddau ar Gemeg yn Abertawe:
Oherwydd yr amrywiaeth eang o bynciau yn y cwrs Cemeg yn Abertawe, gallwch chi ddyfnhau'ch dealltwriaeth o gysyniadau cyfarwydd a darganfod pynciau newydd. Mae'r pwnc yn annog archwilio meysydd eraill ac, fel cyn-fyfyriwr ffiseg, mae'n ddiddorol i mi weld sut gall gwybodaeth flaenorol gynorthwyo wrth ddeall cysyniadau newydd.

Fy Nghynlluniau am y Dyfodol:
Dwi ar fin dechrau ail flwyddyn fy nghwrs a dwi'n bwriadu trosglwyddo i'r rhaglen Meistr i wella fy ngwybodaeth. Yn y pen draw, dwi'n gobeithio astudio am PhD a chael gyrfa fel gwyddonydd ymchwil, gan benderfynu ar y maes pwnc mwyaf addas yn seiliedig ar fy mhrofiadau.

Fy Argymhelliad am Brifysgol Abertawe:
Ar ôl astudio dau bwnc ym Mhrifysgol Abertawe, gallaf ddweud yn hyderus fy mod i wedi mwynhau fy holl amser yma ac yn edrych ymlaen at barhau â'm hastudiaethau.