Juan Corcho

Juan Corcho

Gwlad:
Colombia
Cwrs:
BA Y Cyfryngau a Chyfathrebu

Cynigodd Prifysgol Abertawe lwybr i mi nad oedd yn gofyn am flwyddyn sylfaen. Yn hytrach, byddwn i'n cwblhau blwyddyn integredig, a oedd yn fy ngalluogi i gael cyflwyniad i'r system addysgol wrth hefyd gael yr un addysg â myfyrwyr y DU. Roedd hyn yn gwneud i mi deimlo fy mod i’n cael fy nghynnwys a bod fy ymdrechion addysgol blaenorol yn cael eu cydnabod.

Beth oedd wedi dylanwadu ar eich penderfyniad i astudio yn y DU, ac yn benodol yn Abertawe?

Roedd y lleoliad yn bendant yn ffactor pwysig wrth ddewis prifysgol yn y DU. Trwy fy ngwaith ymchwil annibynnol, darganfyddais fod Abertawe'n cynnig llawer o weithgareddau ac roedd meddwl am fod yng nghanol natur yn gwneud i mi garu'r syniad hyd yn oed yn fwy.

Beth yw eich profiad o’r bywyd cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe?
Mae'r amrywiaeth o grwpiau a chymdeithasau wedi fy helpu i ddod o hyd i bobl sydd â diddordebau tebyg a lleoedd ble gallaf wneud y pethau rwy'n eu mwynhau. Ar yr ochr academaidd, gwnaeth ymuno â chymdeithas y cyfryngau fy helpu i ddod i adnabod mwy o bobl ar fy nghwrs neu raddau tebyg. Mae chwaraeon hefyd yn bwysig i mi ac mae'r gymdeithas bêl-droed, gweithgareddau Bod yn Actif, a llawer o leoedd eraill i ymarfer chwaraeon wedi fy helpu i gwrdd â mwy o bobl â'r un diddordebau.

Sut brofiad oedd addasu i'r gwahaniaethau rhwng eich gwlad frodorol a'r DU?
Mae pobl yn y Brifysgol wedi bod yn hynod groesawgar, gan ei gwneud hi'n haws i mi addasu i fy amgylchedd newydd. Roedd meddu ar sgiliau megis coginio a chymdeithasu yn fy helpu i barhau i fwynhau’r bwyd a’r gweithgareddau roeddwn i’n eu hoffi gartref. Ffactor pwysig arall wrth addasu i Abertawe oedd bodolaeth y gymdeithas Ladin Americanaidd, lle cwrddais i â phobl â chefndiroedd tebyg, gan wneud i mi deimlo'n fwy cartrefol.

Pa fath o gefnogaeth rwyt ti wedi ei derbyn gan y Brifysgol fel myfyriwr rhyngwladol?
Mae Tîm Ewch yn Fyd-eang Prifysgol Abertawe wedi darparu llawer o gyfleoedd i mi dreulio amser gyda myfyrwyr rhyngwladol eraill, deall system addysg y DU yn well, a theimlo bod rhywun yn gwrando pan fydd angen help arnaf. Rwy'n cofio yn ystod wythnos y glas, eu bod wedi trefnu llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol lle roedden ni’n gallu siarad â myfyrwyr rhyngwladol eraill a oedd yn profi sefyllfaoedd a heriau tebyg. Oherwydd hyn roedd hi'n haws addasu, gan wybod nad fi oedd yr unig un oedd yn ei chael hi'n anodd.

Sut byddech chi’n disgrifio eich profiad o fyw yn Abertawe? Beth rydych chi’n ei hoffi fwyaf am y ddinas?
Rydw i wedi mwynhau fy mhrofiad hyd yn hyn. Mae Abertawe'n ddinas fach ond swynol sy'n cynnig popeth y gallech chi ofyn amdano. Mae'r rhyddid i deithio o gwmpas yn hawdd, y pellteroedd byr, a theimlo'n ddiogel yn nodweddion amhrisiadwy mae Abertawe'n eu darparu. Mae hefyd llawer o bobl hynaws yn Abertawe a fydd yn gwneud popeth y gallant i'ch helpu. Os ydych yn mynd ar goll neu os nad ydych chi’n gwybod sut i ddelio â sefyllfa, gofynnwch i unrhyw un sydd o gwmpas am help a siŵr o fod byddant yn delio â'r sefyllfa i chi.

Pa gyngor byddech yn ei roi i fyfyrwyr eraill sy'n meddwl am astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Un peth a oedd o gymorth mawr i mi, ac rwy'n credu y byddai'n helpu myfyrwyr sy'n ystyried Prifysgol Abertawe, yw siarad â phobl sy'n astudio yma yn barod i gael syniad o sut brofiad yw bywyd prifysgol ac i ddechrau cyffroi am y peth. Mae platfformau megis y cyfryngau cymdeithasol, sgyrsiau byw, a sesiynau holi ac ateb (mae Prifysgol Abertawe'n eu cynnal eisoes) yn galluogi myfyrwyr i gysylltu'n uniongyrchol â'r Brifysgol a dechrau teimlo'n rhan o'r gymuned.

Oes unrhyw beth hoffech chi fod wedi gwybod amdano cyn dod i Abertawe a fyddai wedi eich helpu?
Mae esboniad gwell o'r system fysiau yn Abertawe siŵr o fod yn bwysig. Rydw i wedi profi llawer o adegau lle mae’r amserlenni bws yn newid ar gyfer digwyddiadau neu dymhorau penodol. Rydw i fel arfer yn cael gwybod am y newidiadau hyn drwy e-byst gan Drafnidiaeth Abertawe.