Saleh Bin Selm

Saleh Bin Selm

Gwlad:
Yemen
Cwrs:
MSc Gwyddor Data

Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Fel ysgolhaig Chevening, ces i gyfle i ddewis rhwng tair prifysgol yn y DU i gwblhau fy ngradd meistr. Fodd bynnag, fe ddewisais Abertawe am ychydig o resymau. Yn gyntaf, roedd modiwlau Gwyddor Data'r brifysgol yn cydweddu'n berffaith â fy nyheadau gyrfa, o ddysgu peirianyddol a delweddu i ddata mawr a chloddio data. Yn ail, mae’r ystod o weithgareddau a chyfleoedd sydd ar gael yn wych, gan ddarparu amgylchedd dysgu ardderchog i fyfyrwyr rhyngwladol. Yn drydydd, mae'r cyfleusterau a'r offer yn well, sy'n cefnogi'r myfyrwyr â'u hastudiaethau.

Dywed wrthym am dy gwrs a'r hyn rwyt ti'n ei fwynhau fwyaf?
Mae’r MSc Gwyddor Data ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys ystod o bynciau mae gen i ddiddordeb ynddynt. Yr hyn dw i’n ei fwynhau fwyaf am fy nghwrs yw'r ymagwedd ymarferol tuag at ddysgu; yn aml rydym yn gweithio ar setiau data byd go iawn a phrosiectau sy'n ein paratoi ar gyfer heriau go iawn o fyd diwydiant. Mae ymrwymiad y gyfadran i sicrhau ein bod yn dod i ddeall nodweddion damcaniaethol ac ymarferol gwyddor data wedi bod yn fuddiol tu hwnt. Ar ben hynny, roedd y sesiynau labordy yn un o'r sesiynau dysgu mwyaf pleserus oherwydd dysgais lawer gan y staff a'u cefnogaeth barhaus.

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?
Yn gyntaf, mae harddwch naturiol Abertawe heb ei ail, y tirweddau a'r traethau'n bennaf. Yn ail, mae'r bobl yn Abertawe yn hynod o gyfeillgar a chroesawgar, oedd wedi gwneud ymgartrefu'n llawer haws na'r disgwyl. Ac yn olaf, mae gan y ddinas cymuned gefnogol oedd wedi fy helpu fel Mwslim i arfer fy nghrefydd yn fwy cyfleus. Werth sôn fod argaeledd y mosgiau a bwytai halal yn ddefnyddiol iawn o ran hyn.

Fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill?
Yn bendant! Byddwn yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill. Mae'r brifysgol yn darparu sylfaen academaidd gref ond hefyd yn cynnig cymuned gefnogol a chynhwysol. Mae'r staff a’r cyd-fyfyrwyr yn barod i helpu, sy'n ei gwneud hi'n haws addasu i ddiwylliant a system addysg newydd. Yn ogystal, roedd ymdrech y brifysgol i gynnal digwyddiadau rhyngwladol amrywiol wedi helpu wrth greu cysylltiadau a deall safbwyntiau amrywiol byd-eang, sy'n hollbwysig ar gyfer twf personol a phroffesiynol.