Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00530
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£28,759 i £32,332 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
23 Medi 2024
Dyddiad Cyfweliad
27 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Waye Zhang wei.zhang@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Oriau gwaith: 14 awr y wythnos

Mae Di-ïoneiddio Cynhwysaidd (CDI) wedi arddangos galluoedd i waredu rhywogaethau ïonig yn effeithiol o ddŵr gyda manteision megis costau ynni isel, bod yn llai agored i ïonau tarfu, tuedd isel i gennu a baeddu. Ar hyn o bryd, mae galw mawr am dechnoleg trin dŵr wedi'i datganoli yn enwedig mewn cymunedau gwledig ac anghysbell, lle nad oes mynediad at y grid pŵer , gan gynnwys y sectorau mwyngloddio, amaethyddiaeth ac iechyd. Yn ogystal, mae gweithredu CDI yn galw am bŵer cerrynt union (DC), felly gall paneli ffotofoltäig solar ynghyd â banciau batris gyflenwi'n uniongyrchol y pŵer ar gyfer unedau CDI wedi'u datganoli.  Felly, mae CDI yn ateb perffaith ar gyfer lleoliadau gwledig ac anghysbell mewn llawer o wledydd y trydydd byd, lle ceir digon o olau haul drwy'r flwyddyn ond dim mynediad at gridiau pŵer.

Prif nod y prosiect hwn fydd dangos dichonoldeb y dechnoleg newydd rad hon gyda rhai cyfrifoldebau penodol:

  • Dylunio system trin dŵr drwy ddi-ïoneiddio cynhwysaidd yn y labordy ac fel cynllun peilot; Mae defnyddio Solidworks ac ANSYS yn hanfodol.
  • Bod yn gyfrifol am weithredu cynhyrchu electrodau CDI a phrofi'r system o ddydd i ddydd.
  • Cyflawni rôl gefnogol mewn ymchwil Peirianneg Gemegol a/neu yn y cyfleusterau addysgu gan weithio mewn cydweithrediad â staff, myfyrwyr a chyfadrannau eraill yn ôl y gofyn.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr