Mae'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol yn mwynhau perthynas agos â'r cwmni cyfraith rhyngwladol, Stephenson Harwood. Mae'r cwmni, sy'n adnabyddus am ei waith ym meysydd morgludiant ac ynni, yn cynnig dwy interniaeth i fyfyrwyr LLM mewn Morgludiant a Masnach Abertawe bob blwyddyn.

Eleni, enillwyr y gwobrau oedd:

  • Ms Aja BAH, a
  • Mr Joshua Benn

Perfformiodd y ddau'n rhagorol yn ystod eu graddau LLM a byddant yn mwynhau’r cyfle hwn i weithio gyda thîm Masnach Forol a Rhyngwladol Stephenson Harwood. Maen nhw'n awyddus i ddechrau eu hinterniaethau'r haf hwn.

Cyflwynwyd y gwobrau gan Cathal Leigh-Doyle, un o bartneriaid y cwmni, mewn seremoni a gynhaliwyd yn swyddfeydd y cwmni yn Llundain.

Aeth yr Athro Soyer a Dr Kurtz-Shefford gyda'r myfyrwyr i'r seremoni wobrwyo a'r derbyniad wedi'r seremoni. Yn y derbyniad, cafodd y ddau fyfyriwr gyfle i gwrdd ag aelodau iau'r tîm a darganfod mwy am ymarfer cyfreithiol a gwaith y cwmni.   

Dywedodd Dr Kurtz-Shefford y canlynol am eu gwobrau:

"Rydym yn ddiolchgar iawn i Stephenson Harwood am ddarparu cyfle amhrisiadwy i'n myfyrwyr. Mae eu cefnogaeth i'n darpariaeth o raglenni LLM wedi bod yn anhygoel dros y blynyddoedd ac rydym yn hyderus y bydd yr interniaethau hyn yn helpu ein myfyrwyr i wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd academaidd."

Rhannu'r stori