Mewn datblygiad pwysig ar gyfer cydweithredu busnes rhyngwladol, bu grŵp o'r Ysgol Reolaeth yn ymweld â Malaysia ym mis Gorffennaf 2024.

Roedd yr ymweliad hwn yn gam allweddol wrth hyrwyddo rhaglen Soft Landings yr Ysgol, menter ddwys wythnos o hyd mewn addysg weithredol â'r nod o gynorthwyo busnesau bach a chanolig Malaysia i ehangu i farchnadoedd y DU.

Yn ystod yr ymweliad, ymgysylltodd cynrychiolwyr o'r Ysgol Reolaeth â rhanddeiliaid o SME Corporation Malaysia a Pernas. Canolbwyntiodd y trafodaethau ar fireinio a datblygu'r rhaglen Soft Landings a gynlluniwyd i roi i fusnesau bach a chanolig Malaysia'r adnoddau a'r wybodaeth angenrheidiol i sefydlu presenoldeb yn y DU.

Yn ôl y cynrychiolwyr o'r Ysgol Reolaeth - Dr Dafydd Cotterell, Edward Miller, Suzanne Parry-Jones a Lisa Rinaldi - roedd y daith yn llwyddiannus. Dangosodd SME Corporation Malaysia a Pernas frwdfrydedd a chefnogaeth i ymdrechion y tîm o gynrychiolwyr, gan gynnig lletygarwch eithriadol iddynt.

"Mae ein hymweliad â Malaysia wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac edrychwn ymlaen bellach at groesawu carfannau’r rhaglen Soft Landings i Abertawe yn y dyfodol. Fel grŵp, hoffem ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gwrdd â ni. Mae eich caredigrwydd a'ch lletygarwch wedi gadael argraff barhaus ar y grŵp o Brifysgol Abertawe" meddai Dr Dafydd Cotterell (arweinydd y cynrychiolwyr) o'r Ysgol Reolaeth.

Bydd cyfranogiad y garfan sydd ar ddod yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn y rhaglen, gan feithrin cysylltiadau economaidd cryfach a llwyddiannau a rennir rhwng Malaysia a'r DU.

Mae'r fenter hon yn amlygu ymrwymiad y ddwy genedl i feithrin datblygiad busnes ac addysg rhyngwladol. Nod y cydweithrediad yw creu llwyfan cadarn i fusnesau bach a chanolig ffynnu ac ehangu y tu hwnt i'w marchnadoedd lleol, gan gyfrannu at dwf economaidd byd-eang.

Mae'r Ysgol Reolaeth yn estyn ei diolchgarwch i SME Corporation Malaysia a Pernas am eu croeso cynnes a'u lletygarwch rhagorol. Edrychwn ymlaen at gysylltiadau cryfach a llwyddiannau a rennir yn y dyfodol!

Rhannu'r stori